Skip to content ↓

CaringGofalgar

Learners who show empathy, compassion and respect towards the needs and feelings of othersDysgwyr sy'n dangos empathi, tosturi a pharch tuag at anghenion a theimladau pobl eraill

EnquiringYmholgar

Learners who build knowledge through exploration, experience, and discussion.Dysgwyr sy'n meithrin gwybodaeth drwy archwilio, profi a thrafod.

CreativeCreadigol

Learners who are intrinsically motivated and independentDysgwyr sydd â chymhelliant cynhenid ac yn annibynnol

AmbitiousUchelgeisiol

Learners who set high standards, and seek and enjoy challengeDysgwyr sy'n gosod safonau uchel, ac yn ceisio ac yn mwynhau her

ConfidentHyderus

Learners who have the independence of spirit to explore new roles, ideas and strategiesDysgwyr sydd ag annibyniaeth ysbryd i archwilio rolau, syniadau a strategaethau newydd

PrincipledEgwyddorol

Learners who act with integrity and honestyDysgwyr sy'n gweithredu gydag uniondeb a gonestrwydd

PatrioticGwladgarol

Learners who show a pride and love for Wales and being WelshDysgwyr sy'n dangos balchder a chariad tuag at Gymru a bod yn Gymry

IndependentAnnibynnol

Learners who take responsibility for their own learningDysgwyr sy'n cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain

ResilientGwydn

Learners who accept challenges and learn to deal with them positivelyDysgwyr sy'n derbyn heriau ac yn dysgu delio â’r heriau hyn yn gadarnhaol

Welcome Croeso

We are a multi-campus, dual-language school, proudly serving pupils aged 3-18 In the Upper Swansea Valley and Port Talbot.

Welcome

Ysgol Gyfun Ystalyfera is a close knit and friendly school, and we are rightly proud of the caring and supportive relationship which exists between staff and students. We aim that our students grow into responsible and ambitious citizens, who are tolerant, respectful and compassionate towards others.

The school is proud of its tradition, which extends over forty years. Our students’ regular and continued success in external examinations, as well as within a host of extra curricular fields is testament to that excellent tradition.

Rwy'n hynod falch o'ch croesawu i Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, cymuned Gymraeg lwyddiannus a ffyniannus lle mae pob plentyn a myfyriwr yn cael eu herio a'u cymell i ddatblygu'n unigolion o'r radd flaenaf. Mae ein hysgol yn  ysgol 3-18  ar  ddau safle: Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn lleoliad pob oed ac mae'n eistedd ar frig Cwm Tawe, ac mae Bro Dur yn  ysgol 11-16 oed sydd wedi'i lleoli yn Sandfields, Port Talbot. Rydym yn ysgol hapus a llwyddiannus lle mae ein staff ymroddedig a chymwysedig dros ben, ynghyd â lefelau uchel iawn o les, yn darparu addysg galonogol ac uchelgeisiol i bob plentyn.

Mae ein arwyddair 'Dysgu Gorau Dysgu Byw' yn sail i bopeth a wnawn. Ein nod yw darparu addysg a phrofiadau rhagorol er mwyn paratoi ein plant a'n pobl ifanc ar gyfer y camau nesaf mewn bywyd. Rydym yn parchu gwerthoedd traddodiadol gwaith caled, moesau da a hunanddisgyblaeth, tra'n paratoi ein myfyriwr ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol mewn byd sy'n newid yn barhaus.

Mae Ysgol Gymraeg  Ystalyfera  Bro Dur yn fan dysgu lle mae myfyrwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn mwynhau eu taith addysgol. Mae Addysgu a Dysgu arloesol wrth wraidd popeth a wnawn yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi a chyda chymaint o gyfleoedd ar gael, hyderwn y bydd eich plentyn yn tyfu ac yn ffynnu yma gyda ni.  Mae gan yr ysgol enw da a thraddodiad nodedig am ragoriaeth mewn chwaraeon, cerddoriaeth, drama, gwaith elusennol a hyrwyddo diwylliant Cymru. Rydym yn annog pob disgybl i fanteisio ar y cyfleoedd hyn i wella eu datblygiad fel unigolion iach a hyderus, yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Ers 2015 mae'r ysgol wedi elwa o fuddsoddiad o £32miliwn. Mae adeilad Bro Dur yn safle pwrpasol newydd sbon  gydag ystod eang o gyfleusterau rhagorol; mae gan Ystalyfera adeilad cyfnod Cynradd newydd gwych, a dau floc addysgu newydd sy'n cynnwys ystafelloedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg helaeth, pedair labordy TGCh,  adain  Celfyddydau Perfformio  a Theatr 350 sedd gyda phiano mawreddog Shigeru Kawai. Mae'r cyfleusterau chwaraeon yn ardderchog drwyddi draw gan gynnwys Neuaddau Chwaraeon, caeau awyr agored, caeau 2G, MUGA ac ystafelloedd ffitrwydd.

Fel ysgol cyfrwng Cymraeg, credwn yn gryf y gallwn ddarparu'r sylfeini gorau posibl i blant a phobl ifanc Cymru, drwy roi dwy iaith werthfawr ac angenrheidiol iddynt, cysyniadau a geirfa gyfoethog ac amrywiol, a chyfleoedd cyffrous a hwyliog. Ymunwch â ni felly, ar daith i Ysgol Gymraeg  Ystalyfera  Bro Dur – rydym yn awyddus i weithio'n agos gyda chi i gefnogi ac annog eich plentyn i wireddu a chyflawni ei ddyheadau ac ehangu ei orwelion.

Yn ddiffuant,

Laurel Davies
Pennaeth

Transitions Pontio

We work hard to provide a smooth transition for pupils not only between our own campuses, but also as pupils join us from our Cluster primary schools, with whom we have a strong working partnership.Rydym yn gweithio'n galed i bontio'n esmwyth i ddisgyblion nid yn unig rhwng ein campysau ein hunain, ond hefyd wrth i ddisgyblion ymuno â ni o'n hysgolion cynradd Clwstwr, y mae gennym bartneriaeth waith gref â nhw.

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost