Ystalyfera Cynradd
Croeso cynnes iawn i chi gyd i’r Adran Gynradd yma yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera.
Rydym yn ffodus iawn o gael tȋm o staff arbennig, ymroddgar, blaengar a gofalgar yma yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera sydd yn sicrhau cynnydd pob plentyn i’w llawn botensial. Rydym yn dathlu llwyddiannau pob disgybl ac ymfalchȉwn ein hethos cynhwysol drwy ddathlu cynnydd pob disgybl.
Fel ysgol 3-18, rydym yn ffodus iawn o gael mynediad i gyfarpar gwych sydd yn eu tro yn golygu bod ein disgyblion yn cael cyfleoedd cyfoethogi heb eu hail gan gynnwys coginio, Ffrangeg, arbrofion Gwyddonol yn ein labordai, datblygiad ein cae 2G a’n Neuadd perfformio newydd bydd wedi cwblhau erbyn y Nadolig. Yn ogystal, mae’r adeilad cynradd ei hunain yn adeilad newydd sbon gyda chyfarpar gwych gan gynnwys mynediad i’r offer TG gorau fel ein bod yn medru datblygu sgiliau cymhwysedd digidol ein disgyblion ar draws y Cwricwlwm.
Cysylltwch er mwyn dod i’n gweld yma yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera. Byddwn wrth ein bodd yn eich croeswau i’n cymuned gofalgar.
Diolch yn fawr
Mrs Angharad Lloyd