Skip to content ↓

Ein Gweledigaeth

  Rydym...

.  .  .  yn PERTHYN i’r gymuned ysgol, y gymuned ehangach a Chymru. Mae’r gymuned ysgol yn holl bwysig i ni ac mae ein cwricwlwm yn magu’r ymdeimlad o berthyn trwy’r gwaith rydym yn cyflawni. Mae ein cymuned ysgol yn gynhwysol ac rydym yn cyd-weithio ac yn annog ein gilydd trwy’r amser i lwyddo.  Rydym hefyd yn perthyn i’n cymunedau lleol ac yn gweithio’n galed i gyfrannu’n bositif atynt.

 

 

 

 

.  .  .  yn YMHOLGAR ac rydym yn mwynhau her. Rydym yn awyddus i holi cwestiynau mawr a chwilio am atebion gyda’n gilydd. Rydym yn weithredol wrth ddysgu ac rydym yn datblygu corff eang o sgiliau a gwybodaeth newydd, cyffrous. Mae bod yn ymholgar yn ein galluogi i feddwl yn feirniadol a datrys problemau gan feddwl yn ehangach a chreadigol am ein gwaith.

.  .  . yn GYMREIG. Rydym yn Gymry balch sy’n gwerthfawrogi ac yn parchu ein hanes, iaith a diwylliant. Ni yw Cymry’r dyfodol a’n cenhadaeth ni yw gwarchod, hybu a thyfu’r iaith Gymraeg trwy gyfrannu at y gymdeithas Cymreig ehangach.


.  .  .  yn ANGERDDOL. Rydym yn angerddol am ein cyfraniad i fywyd a gweithgareddau’r ysgol wrth ddesg, ar y maes neu ar lwyfan. Defnyddiwn yr angerdd yma i yrru ni ymlaen at lwyddiant.

 

.  .  .  yn ANELU’n uchel ac rydym yn deall bod cyfleoedd di-ri ar gael i ni yn ein gyrfa ysgol ond hefyd wrth i ni adael yr ysgol. Mae gennym ddyheadau uchelgeisiol a gweithwn yn barhaus er mwyn gwireddu’r dyheadau yma.


  

.  .  .  yn WYDN. Rydym yn wynebu heriau, ond rydym yn gweithio’n ddiwyd i’w goresgyn. Datblygwn yn sgiliau fel rhan o’r cwricwlwm i reoli ein hunain a datblygu hyder yn ein gallu i feddwl yn greadiol a datrys ein problemau yn annibynnol. Ar adegau, rydym yn methu, ond rydym yn deall bod hyn yn rhan o’r daith dysgu, a defnyddiwn ein meddylfryd twf i ddyfalbarhau tan i bob un ohonom lwyddo. 


 

.  .  .  yn ARWEINWYR. Mae pob un ohonom yn cael cyfleoedd i arwain. Mae disgyblion yn arwain eu dysgu eu hunain, gan gymryd perchnogaeth dros eu cynnydd eu hunain mewn gwahanol feysydd. Mae cyfleoedd di-ri i arwain mewn pwyllgorau, mewn gweithgareddau allgyrsiol a thu fewn i’r dosbarth. Mae pob un athro yn arweinydd yn yr ysgol – yn arwain y disgyblion yn eu cwmni i lwyddiant ac yn arwain a rhannu arbenigedd gydag athrawon eraill, gyda’r nod o ddarparu’r addysg a phrofiadau o’r safon uchaf. 


 

.  .  . yn  DDAWNUS mewn ffyrdd amrywiol. Mae gennym ni i gyd ein doniau ac yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, dathlwn ddoniau pob dysgwyr, boed yn ddoniau academaidd, creadigol, ymarferol neu cymdeithasol. Ein nod pennaf yw adnabod a meithrin doniau unigol, trwy ymgymryd â phrofiadau cyfoethog a perthnasol. Trwy adnabod, dathlu a rhannu ein doniau, mae ein cymuned yn lle llawer cyfoethogaf. 


 

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost