Ein Disgyblion
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn ceisio datblygu myfyrwyr sy'n llwyddiannus, yn hyderus ac yn hapus, sy'n ysbrydoli eu cymuned ac sy'n gweithredu gyda charedigrwydd a thosturi tuag at eraill.
Yn ein gweithdrefnau a'n harferion dyddiol, ein cwricwlwm eang ac amrywiol, ein model addysgeg a thrwy ein hymrwymiad i ddarparu profiad o'r byd ehangach ein nod yw hyrwyddo ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn, i ddarparu cyfuniad o her uchel a chefnogaeth uchel ac i annog datblygiad:
- arferion rhagorol o ymddygiad megis hunanymwybyddiaeth, caredigrwydd, gwerthfawrogiad, gostyngeiddrwydd, cwrteisi, hunanfynegiant hyderus a hunangyflwyniad a
- arferion dysgu rhagorol megis penderfyniad, gwydnwch, trefniadaeth, darllen, astudio ac ymarfer
Credwn yng ngwerth:
- Hunanymwybyddiaeth
- Caredigrwydd a thosturi
- Perthyn
- Astudio, ymarfer, darllen a gwydnwch
- Ysbrydoli eraill
Yn yr ysgol rydym yn annog hyn drwy gynnig cyfle i'n myfyrwyr fod yn rhan o wahanol gymunedau a lleisio eu barn. Rydym am i fyfyrwyr deimlo'n rhan o'u hysgol, o'u cymuned a'u dyfodol.
|
|
|
|