Skip to content ↓

Cwricwlwm CA5

Ymunwch â Chweched Dosbarth

  • Canolfan o ardderchogrwydd sy’n rhyddhau potensial myfyrwyr trwy ddarparu’r addysg orau a sgiliau bywyd effeithiol,  fydd yn caniatau iddynt wireddu eu huchelgais naill ai trwy Addysg Bellach neu ym myd Gwaith.
  • Canolfan sy’n datblygu myfyrwyr sydd ag agwedd aeddfed a chyfrifol, trwy weithredu fel modelau rôl tu mewn a thu allan i gymuned yr Ysgol mewn gweithgareddau amrywiol.
  • Canolfan ble ystyrir gwasanaeth i’r Ysgol a’r gymuned ehangach yn unol â llwyddiant academaidd sydd wrth wraidd yr ethos o ardderchogrwydd.

Cwrciwlwm CA5

Cliciwch ar y linc isod i gael mynediad i wefan dewisiadau llynedd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn y chweched ynghyd â chyflwyniadau fideo gan arweinwyr y pynciau.

*Plîs Nodwch fod raid i bob disgybl ymateb i'r ffurflen ddewisiadau ar ddiwedd gwefan opsiynau gyda'u 3 dewis erbyn 21/02/2024.  Rhaid i bob disgybl ymateb hyd yn oed os nad ydyn nhw'n bwriadu dychwelyd i'r chweched dosbarth.  Bydd y ffurflen yn agor yn ystod y noson dewisiadau ar 07/02/2024.

Paratoi i'r Dyfodol

Mae paratoi’n drylwyr i’r dyfodol, naill ai i gyflogaeth, hyfforddiant neu Addysg Uwch yn rhan hanfodol o gyfrifoldeb canolfan Gwenallt i’w myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys:

  • Rhaglen o Addysg Bersonol a Chymdeithasol
  • Dilyn cymhwyster Bagloriaeth Cymru
  • Ysgrifennu datganiadau personol a CV gydag arweiniad Prifysgolion gwahanol
  • Ymgynghorydd Gyrfaoedd o Yrfa Cymru
  • Cyswllt agos gyda Menter Iaith Nedd Port Talbot
  • Siaradwyr gwadd.
  • Siaradwyr o brifysgolion
  • Ffair addysg uwch
  • Cyngor a chefnogaeth i baratoi am gyfweliadau
  • Cyfweliadau ffug
  • Ystod eang o gyfleodd allgyrsiol
  • Paratoadau trylwyr i broses UCAS
  • Cymorth i gwblhau ceisiadau UCAS ac eraill
  • Cyswllt agos gyda’r tiwtoriaid bob dydd
  • Monitro manwl o waith y myfyrwyr
  • 3 Adroddiad ym Mlwyddyn 12 a 13
  • Nosweithiau rhieni
  • Cyfweliadau personol gyda’r uwch dim.
  • Cyfle i astudio’n breifat
  • Rhwydwaith Seren

Rhwydwaith Seren

Crëwyd y Rhwydwaith Seren gan Lywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr mwyaf disglair Cymru i gyflawni eu potensial academaidd. Gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau academaidd, bydd y Rhwydwaith Seren yn rhoi gwybodaeth, profiad a chefnogaeth i helpu myfyrwyr gyflwyno ceisiadau llwyddiannus i'n prifysgolion gorau.

Bydd athrawon o ysgolion a cholegau yr ardal yn cydweithio i gyflwyno rhaglen gydlynol o weithgareddau i fyfyrwyr ein ysgol a myfyrwyr lleol eraill. Bwriad y rhain yw ymestyn a herio y tu hwnt i'r cwricwlwm safon uwch, a rhoi cyfle i wella gwybodaeth pynciol gyda grŵp cyfoedion o fyfyrwyr eraill. Bydd staff o brifysgolion blaenllaw'r DU, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, yn sicrhau fod myfyrwyr yn cael y wybodaeth, cyngor a'r gefnogaeth ddiweddaraf wrth wneud penderfyniadau am brifysgolion a chyrsiau.

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost