Skip to content ↓

Ein Pwyllgorau Myfyrwyr

Rydym am i'n myfyrwyr ddatblygu arferion rhagorol o ran eu hymddygiad a'u dysgu, yn eu hawydd i gymryd rhan yn y gymuned, i ymarfer, astudio, i fod yn garedig wrth eraill ac i fod â'r hyder i gymryd rhan mewn beth bynnag y dymunant ac i gael yr hyder i geisio llwyddo.

Yn ogystal â Phwyllgorau Blwyddyn, mae Pwyllgorau wedi eu sefydlu sy’n canolbwyntio ar wahanol agweddau o fywyd ysgol ar draws pob safle.

Ystalyfera Bro Dur 3-18

Y Dreigiau:

Mae’r Dreigiau yn bwyllgor gydag aelodau o flwyddyn 7 ac 8 sy’n gweithio i hybu Cymreictod yn yr ysgol. Maent yn cyfrannu at wahanol weithgareddau ac yn cynrychioli holl ddisgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera. Rôl bwysig sydd ganddynt yw hyrwyddo diwylliant Cymreig, ac maent yn helpu'r ysgol i ddathlu diwrnodau pwysig fel Dydd Miwsig Cymru a Dydd Gŵyl Dewi gyda'u syniadau gwych. Mae'r Dreigiau i gyd yn falch iawn o'u Cymreictod ac mae hwn yn amlwg trwy eu gwaith.

                                 

Pwyllgor Cwricwlwm

Nod y Pwyllgor Cwricwlwm yw casglu llais y disgybl ar y pynciau maent yn astudio, er mwyn i ddisgyblion bl7 ac 8 rhannu profiadau, trafod yr hyn maent yn hoffi dysgu, y pethau dydyn nhw ddim, a'r testunau a’r dulliau dysgu bydden nhw'n hoffi gweld yn y dyfodol. Mae pob cyfarfod (sydd yn digwydd unwaith y bythefnos) yn trafod pynciau fesul Maes Dysgu a Phrofiad. Bydd eu llais yn hollbwysig wrth i ni barhau i ddiwygio ac addasu cwricwlwm newydd wedi eu llunio gan egwyddorion Cwricwlwm i Gymru.

 

Pwyllgor Eco

Criw o ddisgyblion o flwyddyn 7-12 yw’r Pwyllgor Eco ac mae ganddyn nhw i gyd diddordeb mawr mewn gwella amgylchedd yr ysgol a sicrhau dyfodol ecogyfeillgar a chynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Eco yn cynllunio awdit cynaliadwyedd ar gyfer yr ysgol. Byddent wedyn yn gallu adnabod meysydd i wella a gweithredu arnynt trwy godi ymwybyddiaeth disgyblion a thrwy rannu syniadau gyda’r Pennaeth.

 

Yn ogystal, mae’r Pwyllgor llawn syniadau creadigol, gan gynnwys creu pabi coch o gaeadau poteli plastig coch a rhedeg ymgyrch i gasglu dillad trwy gynllun ‘Rags 2 Riches’ er mwyn lleihau’r dillad sy’n cael eu hanfon i’r safle tirlewni. Maent hefyd wedi casglu sbwriel ar safle’r adran Gynradd er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei ailgylchu ac i gadw’r safle’n daclus.

 

 

 

Pwyllgor LGBTQ+

Mae Pwyllgor LGBTQ+ yr ysgol yn bwyllgor gweithredol iawn sy’n sicrhau bod pob disgybl yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys, eu gwerthfawrogi ac yn weladwy. Cenhadaeth y Pwyllgor yw dathlu amrywiaeth, hyrwyddo cynwysoldeb a hyrwyddo cydraddoldeb i bob person ifanc yn yr ysgol.

Mae’r Pwyllgor yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion dangos cefnogaeth i'w gilydd a chodi ymwybyddiaeth yn gyffredinol. Mae’n lle diogel i unrhyw un i ddod a byddant yn cael eu croesawu’n llwyr gan bob aelod.

 

Llysgenhadon Chwaraeon

Mae'r disgyblion yn arwain llu o weithgareddau corfforol megis gemau a sesiynau ffitrwydd ar gyfer eu cyd-ddisgyblion gan hybu mwynhad disgyblion o weithio gyda'i gilydd mewn modd hwylus drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent wedi derbyn hyfforddiant penodol er mwyn medru arwain y sesiynau a mae'r sesiynau yn cael eu paratoi yn fynych. Braf yw gweld disgyblion yn derbyn cyfleoedd arwain gyda'r fath brwdfrydedd.

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost