Skip to content ↓

E-Dysgu

Yn ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro dur, rydym yn deall yr angen i ddarparu addysg o ansawdd uchel, gan gynnwys yn ystod cyfnodau o dysgu o bellter neu cyfunol ar gyfer disgybl unigol neu grwpiau.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnal disgwyliadau uchel ym mhob agwedd ar fywyd ysgol a sicrhau bod yr adnoddau dysgu a'r cymorth sydd eu hangen ar bob disgybl ar gael i lwyddo.

Mae TGCh ac adnoddau ar-lein bellach yn rhan allweddol o Gwricwlwm ein Hysgol ac yn cael ei ddefnyddio ym mhob agwedd o fywyd bob dydd yr ysgol.  Bydd pob disgybl sy'n ymuno ar Ysgol yn derbyn manylion mewngofnodi  ar gyfer yr ysgol a HWB.  Bydd ein polisi defnydd TGCh yn cael i rannu gyda disgyblion cyn iddynt gael mynediad i unrhyw system TGCh.

Os oes gan unrhyw riant / gwarcheidwad unrhyw bryderon ynghylch mynediad eu plentyn i offer TGCh ac adnoddau ar-lein mae croeso iddyn nhw gysylltu gyda'r ysgol i drafod trefniant amgen.

Cyfeiriwch hefyd at ein Polisi Dysgu o Bell.

Trwy E-Ddysgu ein nod yw:

  • Amharu cyn lleied â phosibl ar addysg disgyblion a chyflwyno'r cwricwlwm.
  • Sicrhau bod darpariaeth yn ei lle fel bod yr holl ddisgyblion yn gallu cael gafael ar adnoddau dysgu o ansawdd uchel.
  • Diogelu disgyblion rhag y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio dyfeisiau sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd.
  • Sicrhau bod data staff, rhieni a disgyblion yn parhau'n ddiogel ac nad ydynt yn cael eu colli na'u camddefnyddio.
  • Sicrhau bod mesurau diogelu cadarn yn parhau i fod yn weithredol yn ystod y cyfnod dysgu o bell.
  • Sicrhau bod pob disgybl yn cael y ddarpariaeth sydd ei hangen arnynt i gwblhau ei waith hyd eithaf ei allu, ac i barhau'n hapus, yn iach, ac wedi'i gefnogi yn ystod cyfnodau o ddysgu pell neu cyfunol.

Mae pob adran yn yr ysgol bellach yn defnyddio ein Llwyfan E-Ddysgu i ategu'r cwricwlwm drwy sefydlu tasgau gwaith dosbarth a/neu waith cartref unigol.

Fel ysgol, rydym yn defnyddio MS Teams drwy ein tenantiaeth HWB i osod tasgau aseiniadau a rhedeg unrhyw wersi byw.  Mae gwersi adolygu byw hefyd yn cael eu cynnal gan rai adrannau yn ystod sesiynau gyda'r nos yn CA4 a 5.

Mae rhagor o wybodaeth i rieni ar gael ar wefan HWB.

Cliciwch yma am wybodaeth am sut mae gwersi byw yn gweithio.

Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ar-lein mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd wedi'i gwblhau drwy Swyddfa HWB 365.  Mae gan fyfyrwyr fynediad drwy eu manylion mewngofnodi a chyfrinair arferol y maent yn eu defnyddio pan fyddant yn yr ysgol.

Dyma gopi o'n polisïau e-ddiogelwch a dysgu o bell.

    

    

Polisi e-Diogelwch

   

    

Polisi Dysgu o Bell

    

    

Cytundeb Dysgu o Bell

 

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost