Skip to content ↓

Cwricwlwm i Gymru

Mae addysg yng Nghymru’n newid wrth i’r Cwricwlwm i Gymru cael ei gyflwyno. Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera-Bro Dur wedi chwarae rôl flaenllaw yn datblygu’r cwricwlwm newydd, yn gyntaf fel Ysgol Arloesi ac yna fel un o ddim ond un ar bymtheg o Ysgolion Braenaru. Ar hyd y daith yma rydym ni wedi datblygu gweledigaeth glir ar gyfer ein cwricwlwm arloesol, heriol ac ysgogol. 

Sut mae’r cwricwlwm yn newid?

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

Ein Gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru

Hwyluso teithiau unigol dysgwyr ar draws y continwwm dysgu 3-19 i wireddu’r Pedwar Diben yw prif yrrwr ein cynllunio cwricwlwm ar lefel ysgol, adran a dosbarth.  Erbyn diwedd eu hamser yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, bydd ein dysgwyr yn:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes.
  • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd.

Wrth galon ein gweledigaeth cwricwlwm yw arwyddair ein hysgol, ‘Dysgu Gorau Dysgu Byw’. Dyluniwyd ein cwricwlwm i ddatblygu dysgwyr gydol oes hyderus a galluog sydd wedi eu harfogi gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i ddod yn gyfranwyr gwerthfawr i gymdeithas. 

Mae ein cwricwlwm eang a heriol yn canolbwyntio ar adnabod dysgwyr fel unigolion, gyda diddordebau unigol a phrofiadau amrywiol. Ein nod yw ehangu gorwelion dysgwyr i wireddu eu dyfodol llwyddiannus unigryw a phersonol. Trwy greu diwylliant o ragoriaeth bersonol sy’n herio a chefnogi dysgwyr i ddatblygu’n holistaidd, anelwn at hybu dysgwyr i gymryd perchnogaeth dros eu dysgu eu hunain trwy ddathlu eu llwyddiannau ac adnabod y camau nesaf i barhau i wneud cynnydd. 

Yr un mor bwysig yn ein cwricwlwm yw annog dysgwyr i ddangos balchder yn eu ‘cynefin’ gan ddatblygu dealltwriaeth o’r ffactorau sydd wedi llunio’r ardal a sut mae hyn wedi dylanwadu ar eu hunaniaeth bersonol. Mae cwricwlwm newydd Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn gwreiddio dysgwyr yn eu hardal leol, ynghyd a’u hannog i edrych tu hwnt ar gyfer cyfleoedd, gan ehangu eu gorwelion a’u datblygu fel Cymry’r dyfodol. 

Mae gennym werthoedd a dyheadau pwysig wrth wraidd ein gweledigaeth. Yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro-Dur, rydym yn... 

(Cliciwch ar y ciplun sod am rhagor o wybodaeth)

Sut mae Cwricwlwm i Gymru wedi strwythuro yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur?

Mae ein gweledigaeth yn gyson ar draws y ddau safle a’r continwwm oed, ond mae’r ffordd y mae’r weledigaeth wedi ei weithredu a strwythur y cwricwlwm yn amrywio i ymateb i gyd-destunau'r safleoedd unigol a phrofiadau ac oedran y disgyblion. 

Cliciwch ar y safleoedd penodol (dewislen ochr dde) i weld mwy o wybodaeth.

 

Pamffled Gwybodaeth Cwricwlwm i Gyrfa Ystalyfera Bro Dur

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost