Dysgu ac Addysgu
Ein gweledigaeth ar gyfer Addysgu a Dysgu
Rydym yn ysgol arloesol pob oed ar ddau safle, sy'n darparu addysg cyfrwng Cymraeg o'r safon uchaf; ein cenhadaeth yw datblygu cymuned lle mae gan bawb angerdd dros ddysgu.
Mae ein statws ysgol 3 – 18 oed ar safle Ystalyfera yn cynnig cyfleoedd dysgu cyffrous ac arloesol i ni lle mae plant oed cynradd yn dysgu gyda chydweithwyr uwchradd arbenigol ac mae disgyblion uwchradd yn gweithio ochr yn ochr â'n disgyblion iau ac yn eu cefnogi. Rydym yn awyddus i fanteisio ar y cyfleoedd hyn lle bynnag y gallwn er mwyn creu pontio di-dor ar hyd y continwwm dysgu.
Fel campws 11-16 ym Mro Dur, rydym yn ymfalchïo yn ein dull addysgu a dysgu sy'n arwain y sector, lle mae ymarfer seiliedig ar ymchwil yn cadw ein haddysgu'n fywiog, yn ddiddorol ac yn gyfredol ac yn cefnogi ein nod o wella deilliannau i'n dysgwyr.
Gyda'r plentyn yn y canol, ein dyhead yw i bob disgybl gyflawni a ffynnu fel dysgwyr, a chynhyrchu ei gwrs ei hun ar gyfer dysgu gydol oes. Bydd gan ddisgyblion y grym i gymryd perchnogaeth o'u dysgu, i wneud cyfraniadau pwrpasol i'w hamgylcheddau dysgu, ac i fynd i'r afael â materion sy'n codi yn y byd o'u cwmpas.
Nid yw 'addysgu a dysgu' rhagorol yn datblygu ac yn digwydd mewn ysgolion ar hap; mae angen i ysgol anelu at ddatblygu'r llinyn allweddol hwn fel bod pob disgybl yn cael y cyfleoedd bywyd gorau. Credwn mewn her, ymgysylltiad, a dysgu dwfn (meistrolaeth). Caiff hyn ei hyrwyddo drwy gynllunio gofalus, amcanion dysgu clir ac addysgu ymatebol.
Defnyddiwch y dolenni ar yr ochr dde i lywio drwy ein hadran Cwricwlwm ac Addysgu.