Skip to content ↓

'Stafell Stwnsh Ystalyfera

Croeso i bawb i dîm Cynhwysiant a Lles Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.

Ein bwriad yw cefnogi eich plentyn yn emosiynol ac yn gymdeithasol ar hyd ei daith yn yr ysgol boed ar ffurf cefnogaeth yn y dosbarth, trwy raglenni ymyrraeth grŵp bach penodol neu gefnogaeth 1:1 ddwys. Gobeithiwn yn fawr y bydd y wybodaeth a gynhwysir yma yn eich helpu i ddod i'n hadnabod a'n rôl wrth gefnogi eich plentyn

Cymerwch olwg ar ein grŵp cefnogi Iechyd Meddwl a Lles ar facebook:

https://www.facebook.com/groups/803223010261722

 

Lleoliad

Lleolir yr adran ar lawr gwaelod adeilad Nedd; a elwir yn 'Stafell Stwnsh. Rydym yn ei hanfod yn ganolfan ieuenctid, a grëwyd i ffurfio amgylchedd diogel, cyson gyda staff hyfforddedig, er mwyn cefnogi maenor gyfan o anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Ymdrechwn i gefnogi ein disgyblion ym mha beth bynnag sydd ei angen arnynt.

Staff

 

Mrs Sara Jones yw arweinydd Iechyd Meddwl a Lles yr ysgol ac mae ei gwaith yn cynnwys sicrhau bod anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl disgyblion yn cael eu hadnabod, bod yr ymyrraeth a’r ddarpariaeth fwyaf perthnasol mewn lle ar gyfer disgyblion, a chydlynu gwaith yr adran dros y ddau safle.

 

 

 

Miss Siân Jones yw ein swyddog iaith Gymraeg a gweithiwr cynhwysiant. Mae ei rôl yn cynnwys datblygu a chreu mentrau newydd ac arloesol er mwyn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg. Mae Miss Jones hefyd yn gweithio'n agos gyda phobl ifanc gan gefnogi eu hanghenion cymdeithasol ac emosiynol.

 

 

Mr Steffan Lupton yw ein gweithiwr cynhwysiant ac ymgysylltu. Mae Mr Lupton yn cefnogi ein pobl ifanc ag ystod eang o anghenion ac anawsterau er mwyn cefnogi eu hanghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

 

 

 

Miss Bobbie Rees yw ein Cynghorydd Gyrfaoedd. Mae Miss Rees ar gael ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda myfyrwyr yn yr ysgol, hyd yn oed ar ôl iddynt adael a hoffai gael arweiniad ar eu camau nesaf. Mae apwyntiadau ar gael yn uniongyrchol oddi wrth Miss Rees.

 

Prosiectau Ymyrraeth

Bwriad yr adran yw creu pecynnau pwrpasol er mwyn cefnogi anghenion unigol ein disgyblion. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol er mwyn darparu gweithgareddau allgyrsiol sy’n rhoi gwerth ychwanegol i brofiad addysgol ein disgyblion yma yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.

 

Llwyddo / SWEET

Mae'r cymhwyster SWEET yn rhaglen arloesol a diddorol. Rydym yn darparu’r adnodd Twf a Lles Personol SWEET (PGW), sy’n cefnogi cyflwyno cymwysterau BTEC Lefel 1 a 2 mewn Twf Personol a Lles. Mae'r cymhwyster hefyd yn anelu at ddarparu dewislen o gymwysterau ychwanegol gan gynnwys Hylendid Bwyd Lefel 1, Cymwysterau Agored Cymru, yn ogystal ag addysgu sgiliau gwerthfawr i helpu myfyrwyr i fyw bywydau hapusach, iachach a mwy llwyddiannus. Mae’n creu sgyrsiau difyr am faterion mawr bywyd, ac yn helpu dysgwyr i gael gwell gwybodaeth amdanyn nhw eu hunain a’r byd o’u cwmpas.

 

Asiantaethau Allanol

  

 

Prosiect Pasg

           

‘Menter Uwch Gynghrair’ yr Elyrch

 

Prosiect ‘Tackle’ Y Gweilch

   

Gwasanaeth Tan achub

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost