Skip to content ↓

siarter iaith cymraeg

Mae'r iaith Gymraeg yn un o drysorau Cymru. Mae'n rhan o'r hyn sy'n diffinio ni fel pobl ac fel cenedl. Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw gweld nifer y bobl yn gallu mwynhau siarad ac defnyddio'r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050.

Prif nod y Siarter yw ysbrydoli ac ysgogi ein myfyrwyr i ddod yn bobl Gymreig balch. Fel rhan o'n nodau, rydym yn annog defnyddio'r Gymraeg yn ffurfiol ac anffurfiol, yn trefnu gweithgareddau sy'n ysbrydoli ac ysgogi'r myfyrwyr megis cyfleoedd i gyfansoddi cerddi a chaneuon trwy gyfrwng y Gymraeg; astudio ein 'cynefin' a hanes a threftadaeth Cymru; cynnal gwaith prosiect byw o fewn ein hardal leol a chynnwys cymuned yr ysgol a'r gymuned ehangach yn ein cynlluniau ac yn cynnal cystadlaethau a darparu gwobrau am ymdrechion myfyrwyr. Rydym yn manteisio ar bob cyfle i ddathlu'r iaith Gymraeg a Chymru.

Roedd y Adran Uwchradd yn falch o ennill y Wobr Efydd ac maent bellach yn gweithio'n frwdfrydig tuag at gyflawni'r Wobr Arian. Cafodd yr Adran Gynradd lwyddiant mawr wrth ennill y Wobr Aur, ac maent yn parhau i weithio'n galed i'w chynnal. Rydym yn cofio bob tro bod yr iaith Gymraeg yn eiddo i ni i gyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r ddolen wefan y Siarter Iaith.

Cliciwch yma i ymweld â gwefan Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Sir Castell-nedd Port Talbot.

Cliciwch yma i weld y gwefan Podlediadau Siarter Iaith ac Eisteddfod Dur a Mor clwstwr Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur .

Beth yw'r gair Cymraeg ar gyfer…? Rydym yn clywed hyn yn aml — yn y dosbarth, ar-lein, neu yn y gwaith. Mae atebion ond clic i ffwrdd. Boed ar gyfer gwaith cartref, dysgu, neu chwilfrydedd, dyma'r lle i ddechrau. Cliciwch yma.

 

Photo of the 'Camau Tua'r Copa' poster

Photo of the Primary 'Criw Cymraeg'

Dyma ein Criw Cymraeg Cynradd

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

 

Canolfan Iaith Logo

Cliciwch yma ar gyfer y gwefan Canolfan Iaith y Cwm

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 846900

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost