Skip to content ↓

Siarter Iaith Gymraeg

Mae'r Gymraeg yn un o drysorau Cymru. Mae'n rhan o'r hyn sy'n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl. Uchelgais Llywodraeth Cynulliad Cymru yw gweld nifer y bobl sy'n gallu mwynhau siarad a defnyddio'r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050.

Prif nod y Siarter yw i ysbrydoli a chymell ein disgyblion i fod yn Gymry balch. Fel rhan o'm nodau rydym yn annog defnydd ffurfiol ac anffurfiol o'r Gymraeg, yn cynnal gweithgareddau sydd yn sbarduno disgyblion e.e. cyfleoedd i gyfansoddi cerddi a chaneuon drwy gyfrwng y Gymraeg; astudio'n cynefin a hanes Cymru; cynnal gwaith project byw o fewn ein hardal leol a chynnwys y gymuned ysgol a'r gymuned ehangach yn ein cynlluniau a chynnal cystadlaethau a darparu gwobrau am ymdrechion disgyblion. Rydym yn cymryd pob cyfle i ddathlu'r Gymraeg a Chymru.

Roedd yr Adran Uwchradd yn falch o ennill y Wobr Efydd ac maent bellach yn gweithio’n egniol tuag at ennill yr Arian. Cafodd yr Adran Gynradd lwyddiant mawr drwy ennill y Wobr Aur, ac maent yn parhau i weithio’n galed i’w chynnal. Rydym yn cofio ar bob achlysur fod yr iaith Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Am ragor o wybodaeth, gweler y ddolen i wefan y Siarter Iaith.

Cliciwch yma er mwyn gweld ein gwefan Siarter Iaith ysgol Sir Castell Nedd Port Talbot.

Beth yw’r gair Cymraeg am…? Clywn hyn yn aml - yn y dosbarth, ar-lein neu yn y gwaith. Mae’r atebion yn unig glic i ffwrdd. Gwaith cartref, dysgu neu chwilfrydedd, dyma’r lle perffaith i ddechrau. Cliciwch yma.

 

Llun o'r camau Tua'r Copa

Llun o ddisgyblion siarter iaith adran Cynradd

Dyma ein 'Criw Cymraeg' Adran Gynradd.

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

Logo Canolfan Iaith

 Cliciwch yma ar gyfer gwefan Canolfan Iaith y Cwm

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 846900

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost