Dyniaethau ar Daith!
Ymholiad Traffig yn ardal Bro Dur
Fel rhan o’u gwaith ar ‘Fy Myd Lleol’, aeth Blwyddyn 7 ati i gyflawni ymholiad traffig o amgylch safle’r Ysgol. Gwnaethon ni ymweld â thri safle gwahanol er mwyn arsylwi a chymharu tagfeydd traffig tra hefyd yn cyflawni arolwg stryd. Er gwaetha’r gwyntoedd grymus roedd Blwyddyn 7 wedi mwynhau’r profiad o ddysgu yn yr awyr agored yn fawr!