Ellie yn crwydro’r wlad!
Mae wedi bod yn ychydig o wythnosau llwyddiannus iawn i Ellie. Cystadlodd ym Mhencampwriaethau Sboncen Prydain yn Birmingham a daeth yn 3ydd yn y categori dan 17 oed. Ymlaen wedyn i Rownd Derfynol yr Inter Counties yn Nottingham adod yn fuddugol!! Gan symud ymlaen o hynny, aeth Ellie wedyn i gystadlu ym Mhencampwriaeth Iau Sboncen Cymru Merched dan 17 oed yng Nghaerdydd a daeth yn gyntaf eto!! Gwych!! Llongyfarchiadau enfawr i Ellie – ymlaen nawr i dwrnament yn Swydd Warwick yn ystod penwythnos cyntaf mis Chwefror. Amdani Ellie!