Dydd Miwsig Cymru 2022 – Beth yw eich hoff gân Gymraeg?

Mae dathlu ein cymreictod yn bwysig iawn i ni ym Mro Dur – ac roedd hi’n hyfryd cael gwneud hyn unwaith eto ar Chwefror 4ydd yn sŵn cerddoriaeth Cymru. Roedd rhestri chwarae Spotify o hoff gerddoriaeth yr athrawon yn cael ei chwarae trwy’r dydd, Radio Dur yn cael ei hail-lawnsio ar y buarth gan DJs medrus Blwyddyn 9 a llawer o hwyl wrth i ni ddathlu yr amrywiaeth helaeth o gerddoriaeth sydd gennym yng Nghymru.