Diwedd ar gyfnod hanesyddol gyda dymchweliad y Neuadd Fawr

Ar ddiwedd 50 mlynedd o fodolaeth, daeth diwedd i ddiwrnodau y Neuadd Fawr. Yn dilyn wythnos o waith dymchwel gan gwmni adeiladu Scott’s, aeth y wal olaf i’r llawr a thawelwch a fu! Ers dechrau Ionawr, mae adeiladau yr hen ysgol wedi chwalu; yr adran Gerdd a Drama oedd gyntaf, wedyn yr hen Gampfa a labordai Nedd ac yn olaf (ar ôl diogelu pibau yr organ!) lloriwyd y walydd terfynol i adael ardal agored ar gyfer cam nesaf y gwaith sef buarth.