Gweithgareddau Cwricwlwaidd ac allyrsiol yn yr awyr agored
Mae disgyblion yr Adran wedi derbyn profiadau di-ri unwaith eto dros y cyfnod diwethaf i ddysgu a mwynhau yn yr awyr agored. Bu cyfleoedd i greu cynefinoedd anifeiliaid newydd gan ddefnyddio deunyddiau naturiol ar y mwyafrif a chyd-weithio fel tîm er mwyn cyrraedd y nod, a phlannu cennin pedr mewn partneriaeth gyda Mr Richard Davies o’r Adran Hanes a Dyniaethau. Mae pob disgybl wedi derbyn cennin pedr i’w plannu ac edrychwn ymlaen yn arw i weld ffrwyth eu hymdrechion yn y Gwanwyn, sydd yn arwydd hyfryd, gweledol o ddechreuad newydd yn ein hamgylchedd naturiol.
Gwnaeth y tîm pêl-droed (bechgyn) fwynhau chwarae yn erbyn Ysgol Gymraeg Gwaun Cae Gurwen, gydag Ystalyfera yn fuddugol y tro hwn. Diolch i staff a disgyblion y Waun am ddod atom er mwyn cynnal y gêm ar ein cae 2G Newydd sbon! Roedd y disgyblion a’r staff oll wrth eu boddau.