Skip to content ↓

Ystalyfera Cynradd

Mae cwricwlwm yr Adran Gynradd yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera wedi ei ddylunio yn ôl egwyddorion y Pedwar Diben a’r Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDaPh) sy’n cynnwys y canlynol:

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Dyniaethau
  • Iechyd a Lles
  • Celfyddydau Mynegiannol

Caiff dysgwyr eu haddysgu trwy themâu trawsgwricwlaidd ac mae’r wybodaeth a’r sgiliau o’r chwe MDPh yn cael eu plethu mewn i’r testunau gyda phwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau trawsgwricwlaidd disgyblion, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Mae enghreifftiau o themâu'r Cyfnod Sylfaen yn cynnwys Y Bobl sy’n ein Helpu; Fy Milltir Sgwâr ac Wwsh i’r Lleuad. Yn y Cyfnod Iau, gall themâu cynnwys: Harri Potter, Arwyr Cymru; Rhufeiniaid a Choedwigoedd Glaw.

Yn ogystal â’r themâu yma, mae dysgwyr yn cymryd rhan mewn gwersi Iechyd a Lles lle mae ffocws cryf ar ddatblygu iechyd meddwl ac iechyd emosiynol dysgwyr, ynghyd a’u hiechyd corfforol trwy amrywiaeth o weithgareddau Ymarfer Corff hwyl.

Mae’r Adran Iau hefyd wrthi’n datblygu cwrs newydd unigryw i Ysgol Gymraeg Ystalyfera o’r enw ‘Dysgu Gorau Dysgu Byw’. Bydd y cwrs yma yn datblygu sgiliau dysgwyr i ddod yn feddylwyr annibynnol, creadigol a chwilfrydig sydd gyda meddylfryd twf ac sy’n awyddus i gymryd perchnogaeth dros eu dysgu a’u cynnydd eu hunain.

    

     

                 

                                                                 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost