Bro Dur
Croeso i Ysgol Gymraeg Bro Dur – ein campws newydd 11-16 yn ne sir Castell Nedd Port Talbot. Agorwyd y campws yma ym mis Medi 2018 gyda dim ond Blwyddyn 7 a 8 ac mae hi wedi bod yn fraint gweld ein disgyblion yn tyfu mewn niferoedd fesul blwyddyn ac yn aeddfedu fel pobl ifanc.
Ehangu gorwelion ein dysgwyr yw ein nod a sicrhau nad oes rhwystr i ddatblygiad unrhyw ddisgybl gan sicrhau fod pob un o’n dysgwyr yn cael eu herio i gyrraedd eu potensial gyda gofal. Mae addysgeg a lles wrth wraidd popeth sydd yn digwydd ym Mro Dur ac rydym yn ymfalchïo yn ein dulliau addysgu a dysgu sy'n arwain y sector. Gyda thîm ardderchog o staff brwdfrydig a byrlymus, mae’r addysgu yn fywiog, yn ddiddorol ac yn gyfredol ond y peth pwysicaf oll yw mai lles a chynnydd pob un dysgwr yw’n blaenoriaeth.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda’r dair ysgol gynradd wych sydd yn ein bwydo – Ysgol Gymraeg Rhosafan, Ysgol Gymraeg Tyle’r Ynn ac Ysgol Gymraeg Castell Nedd. Dyma dair ysgol sydd yn sicrhau’r gwreiddiau’r gorau i’r disgyblion o ran eu haddysg a’u hunaniaeth fel Cymry ac rydym yn ddiolchar iawn i gael adeiladu ar y gwreiddiau dwfn yma.
Rydym yn gymuned glos, lle mae pob unigolyn yn bwysig – pob un disgybl a phob aelod o staff. Ymfalchïwn yn y cyfleoedd a rown i’n dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o’u hunaniaeth a’u treftadaeth fel brodorion de sir Castell Nedd Port Talbot, Cymru ac fel dinasyddion y byd. Fel campws newydd a sefydlwyd yn 2018, mae egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn rhan annatod o’n haddysgeg gan gynnig profiadau eang, dilys a chyfredol i’n dysgwyr.
Mae’n fraint cael gweithio yn yr ysgol arbennig hon, edrychaf ymlaen i gydweithio’n bellach â chi fel dysgwyr, rhieni a rhanddeiliaid Bro Dur.
Diolch
Sioned Jones