Un Gair Caredig
Roedden yn falch iawn o gefnogi Wythnos gwrth fwlio eleni eto. Rhoddwyd pwyslais ar gwned y pethau bychain a sicrhau ein bod ni fel cymuned Bro Dur yn ystyried geiriau caredig wrth ymdrin â diwrnod arferol Ysgol. Cafwyd gwasanaeth a her i greu cardiau post gydag Un Gair Caredig arnynt. Pwyslesiwyd nad oedd angen gwneud dim byd mawr i fod yn garedig, na chwaith wario llawer o arian. Penderfynodd Pennaeth Cynnydd Bl 7 i greu murlun i flwyddyn 7 a cafodd pob disgybl cyfle i nodi geiriau caredig maent yn ei ddefnyddio pob dydd. Mae’r murlun bellach yn ganolbwynt ar goridor Haearn