Skip to content ↓

Ystalyfera Uwchradd

Cwricwlwm i Gymru

Ail-ddyluniwyd cwricwlwm blwyddyn 7 yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera i ddilyn egwyddorion Cwricwlwm i Gymru ac mae’n cynnwys y Meysydd Dysgu a Phrofiad canlynol:

  • Cymru, Celtica ac Ewrop (cwrs Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu sy’n datblygu iaith mewn cyd-destun yr ardal leol a thu hwnt)
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Saesneg
  • Dyniaethau
  • STEM
  • Iechyd a Lles
  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Ieithoedd Tramor Modern
  • Dylunio a Thechnoleg

Hefyd ar amserlen Blwyddyn 7 ac 8 yw ‘Dysgu Gorau Dysgu Byw’- cwrs unigryw i Ysgol Gymraeg Ystalyfera sy’n canolbwyntio ar dyfu hyder a sgiliau disgyblion i ddod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol, eu trochi mewn profiadau newydd a chynnig cyfleoedd iddynt gyfrannu at eu cymunedau lleol ac achosion da. Yn y cwrs yma, mae disgyblion yn cael cyfle I drafod a mesur eu cynnydd eu hunain, gan gymryd cyfrifoldeb dros ddysgu eu hun ac edrych ar eu dysgu fel darlun mawr. Yn ogystal, mae gweithgareddau sydd wedi cael eu cynnwys megis astudio llyfr ‘You are Awesome’ gan Matthew Syed, trefnu ymgyrch bocsys Nadolig a threfnu gweithgareddau i godi arian at elusen, e.e. Gemau awyr agored a saethyddiaeth, i gyd yn gweithio i gefnogi disgyblion i wireddu’r Pedwar Diben.

                           

  

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost