Skip to content ↓

Ein Senedd Ysgol

Prif nod Senedd yr Ysgol  yw rhoi llais i'n disgyblion. Mae cael Senedd Ysgol yn  rhoi perchnogaeth i'n disgyblion o gymuned eu hysgol ac yn dangos iddynt fod eu barn yn cael ei gwerthfawrogi a'i gwrando arni.

Mae llawer o sgiliau bywyd pwysig y gellir eu datblygu drwy gael Senedd Ysgol  megis gwneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb, gwaith tîm a datblygu ymwybyddiaeth economaidd ac ariannol, pob ffordd o sicrhau ein bod yn helpu ein disgyblion i ddod yn unigolion hyderus a dinasyddion cyfrifol.

Mae Senedd yr Ysgol yn cynnwys un cynrychiolydd penodedig o bob grŵp blwyddyn ynghyd â'r Prif Fachgen, y Prif Ferch ac  aelod o staff.

Mae’r Senedd Ysgol yn gyfle arbennig i ddisgyblion gymryd mwy o ran yn y ffordd y mae ysgol yn cael ei rhedeg – YN CYNNWYS POB LLAIS.

Mae Senedd Ysgol o fudd i gymuned yr ysgol gyfan gan ei bod yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion gyfleu eu teimladau yn ogystal â dylanwadu ar benderfyniadau a wneir.

Strwythur llais y disgybl – i sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn cael y cyfle i fynegi ei farn ei hun.

 

 

Rhai o’r strategaethau y mae’r senedd wedi’u rhoi ar waith hyd yn hyn:-

  • Cynllunio Polisi Iaith ar gyfer Gwobr Efydd Siarter Iaith.
  • Cydweithio gyda'r Pennaeth ar ddyfarnu prynhawn bob pythefnos ar gyfer perffeithio gwaith yn ystod addysg gartref.
  • Cynllunio ardaloedd gweithgareddau awyr agored yn y maes chwarae newydd.
  • Codi arian ar gyfer adnoddau newydd ac elusen.
  • Ymweld â'r adeilad newydd ar safle Ystalyfera a rhoi eu barn ar y gwelliannau sydd i'w gwneud – megis mannau torri allan a'r ffreutur.
  • Dewis brechdanau a wraps ar gyfer ffreutur yr ysgol.
  • Gwerthuso a mireinio gweledigaeth yr ysgol ar gyfer Cwricwlwm i Gymru

Sut mae'r aelodau'n cael eu dewis?

 Caiff pob disgybl gyfle i fod yn aelod o Senedd yr Ysgol a phwyllgor blwyddyn.

Gwneir cais trwy ffurflen gais ac mae pob disgybl yn cael cyfweliad gyda'r prif swyddogion.

Dewisir dau gynrychiolydd gan y disgyblion hŷn i gynrychioli eu grŵp blwyddyn ar y Senedd.

Mae yna hefyd bwyllgor blwyddyn gyda chynrychiolwyr o bob dosbarth ar y pwyllgor a chynrychiolwyr Senedd yr ysgol sy'n adrodd yn ôl ar ôl cyfarfodydd i'r senedd.

 

Senedd Cynradd Ystalyfera

Senedd Ystalyfera Uwchradd

Senedd Bro Dur

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost