Skip to content ↓

Cwricwlwm CA4 Bro Dur

Mae Cwricwlwm CA4 ar Gampws Bro Dur yn gwricwlwm cytbwys sy'n cynnwys elfennau o bynciau statudol craidd a phynciau dewisol.

Ym mlwyddyn 9 bydd disgyblion yn astudio 12 pwnc gorfodol: Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Astudiaethau crefyddol, Celf a dylunio, Celfyddydau Mynegiannol, Daearyddiaeth, Hanes, Iechyd a lles, Ieithoedd tramor modern a STEM. Bydd pob disgybl blwyddyn 9 hefyd yn dewis 1 pwnc dewisol o golofn A. Mae'r broses hon yn dechrau'n gynnar ym mis Ionawr ym Mlwyddyn 8.  Bob blwyddyn rydym yn addasu ein colofnau dewis i'r anghenion a gofynion disgyblion o fewn y cohort.

Bydd disgyblion blwyddyn 10 yn dilyn 9 pwnc statudol craidd.  Y pynciau yw:  Cymraeg (Iaith), Cymraeg (Llenyddiaeth), Saesneg (Iaith), Saesneg (Llenyddiaeth), Mathemateg, Rhifedd, Gwyddoniaeth ddwbl, a'r BAC Cymreig.

Bydd pob disgybl blwyddyn 10 hefyd yn dewis 3 phwnc dewisol, un o bob colofn opsiwn.  Mae'r broses hon yn dechrau'n gynnar ym mis Ionawr ym Mlwyddyn 9.  Bob blwyddyn rydym yn addasu ein colofnau dewis i'r anghenion a gofynion disgyblion o fewn y cohort.

Cwblheir pynciau yng ngholofn A mewn blwyddyn (naill ai blwyddyn 9 neu 10), tra bod pynciau yng ngholofn B &C wedi'u cwblhau dros ddwy flynedd (blwyddyn 10 ac 11).

Mae pynciau dewisol naill ai'n gymhwyster galwedigaethol Lefel 2 neu TGAU- Dyma'r colofnau opsiwn ar gyfer Medi 2022 - Haf 2024.

Dolen i wefan gwybodaeth colofnau opsiynau: 2022 - Gwefan dewisiadau Bro Dur

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost