Skip to content ↓

Y Gilfach Ystalyfera

Yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol

Croeso

Croeso cynnes iawn i Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Ysgol Gymraeg Ystalyfera. Ein bwriad yw cefnogi eich plentyn yn academaidd ac yn gymdeithasol ar hyd ei daith yn yr ysgol boed ar ffurf cefnogaeth yn y dosbarth, drwy raglenni ymyrraeth penodol fesul grwpiau bach neu gefnogaeth ddwys 1:1. Mawr obeithiwn fod yr wybodaeth a geir yma yn eich cynorthwyo wrth ddod i’n hadnabod ac wrth gefnogi eich plentyn.

Lleoliad

Yn yr Adran Uwchradd, lleolir yr adran yn ystafelloedd 18 a 28 bloc Eirion, sef Y Gilfach. Yn y Campws Cynradd, cefnogir disgyblion yn bennaf yn eu hystafelloedd dosbarth.  Dewiswyd enw’r adran yn benodol ar gyfer ei hystyr: hafan neu gornel sydd yn cynnig cysgod a diogelwch. Mawr obeithiwn fod y disgyblion sydd yn defnyddio’r Gilfach yn gweld yr adran fel cilfach, man diogel i dderbyn cefnogaeth ar bob achlysur.

Staff

Mr Aled Maddock yw Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol ac y mae ei gwaith yn cynnwys sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cael eu hadnabod, bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol fwyaf perthnasol yn ei lle ar gyfer disgyblion a chydlynu holl waith yr adran.  

 

 

Mrs Hayley Amber yw Uwch-gynorthwyydd Cynnal Dysgu yr ysgol. Y mae ei rôl yn cynnwys cydlynu gwaith ac amserlenni aelodau’r adran, cydlynu a rhedeg ein rhaglenni ymyrraeth amrywiol a chefnogi disgyblion 1:1 yn Y Gilfach.

 

 

Y mae’r tîm hefyd yn cynnwys cynorthwywyr cynnal dysgu profiadol sef Mrs Rhian Lougher, Mr Alun Wyn Stephens, Miss Jodie McCarthy, Miss Melissa Gnojeck, Miss Chanelle Anthony, Miss Sara Williams, Mrs Catrin Griffiths a Mr Rhydian Evans yn yr Adran Uwchradd, a Ms Jayne Truman, Ms Sian Abraham, Ms Teresa Counsell, Ms Liz Davies, Miss Telyn Evans, Ms Rebecca Scott, a Miss Alys Carroll yn yr Adran Gynradd.

Rhaglenni Ymyrraeth

Cynhelir holl raglenni ymyrraeth yr Adran Uwchradd yn y Gilfach, a’n bwriad ar bob achlysur yw cadw’r niferoedd sydd yn eu mynychu’n fychan er mwyn sicrhau sylw arbenigol i bob unigolyn. Yn yr Adran Gynradd, mae'r disgyblion yn derby eu cefnogaeth yn ru hystafelloedd dosbarth yn bennaf.  Caiff disgyblion eu gosod mewn grwpiau â disgyblion eraill ag anghenion dysgu ychwanegol a sgiliau tebyg.

Y mae’r adran yn darparu ystod o raglenni ymyrraeth er mwyn cefnogi disgyblion a’u cynorthwyo wrth wneud cynnydd academaidd gan gynnwys gweithdai darllen a sillafu yn y Gymraeg a’r Saesneg a gweithdai rhifedd. Er mwyn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol cymdeithasol ac emosiynol, yr ydym hefyd yn darparu gweithdai megis Grŵp Enfys, clwb Lego, Talkabout ac ELSA.

Cewch wybodaeth benodol o ran y rhaglen ymyrraeth fwyaf perthnasol i’ch plentyn yn ystod y broses o osod y Cynllun Addysgu Unigol (CAU) neu’r Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn ei lle. 

Cefnogaeth tu hwnt i oriau’r ysgol

Deallwn ei bod hi’n anodd iawn i rai o’n disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol i gwblhau eu gwaith cartref a bod y broses yn gallu bod yn rhwystredig iawn iddynt. Er mwyn cynorthwyo disgyblion felly, y mae gan bob disgybl sy’n cael ei gefnogi gan yr adran fynediad i’n Teams adrannol.

Y mae croeso cynnes iawn i ddisgyblion ddefnyddio’r Teams hwn i gysylltu â ni ac i dderbyn cymorth a chyfarwyddiadau pellach gyda’i gwaith. Fe fydd y cynorthwyydd cynnal dysgu sydd yn cefnogi’ch plentyn yn rhannu enw’r Teams perthnasol gyda’ch plentyn yn ystod y sesiwn rhaglen ymyrraeth gychwynnol ac yn sicrhau ei fod yn ymwybodol o sut i gael mynediad iddo o adref. Y mae croeso cynnes i chithau hefyd ddefnyddio’r Teams i holi cwestiwn os oes angen cymorth neu arweiniad pellach arnoch.

Cysylltiadau allanol

Fel adran yr ydym yn gweithio’n agos iawn â nifer o asiantaethau allanol gan gynnwys y Seicolegydd Addysg, athrawon ymgynghorol ASD, anawsterau dysgu penodol, Nam Clyw a Nam Gweledol y Sir, therapyddion Iaith a Lleferydd a thîm Cynnal Ymddygiad y Sir. Pe bai angen cymorth arbenigol ar eich plentyn, fe fyddai’n bosibl i ni gyfeirio at yr arbenigwyr hyn er mwyn derbyn cefnogaeth ychwanegol.

Cliciwch ar y ddolen 'JIGSAW' isod er mwyn cysylltu â'r gwasanaeth Cwnsela ysgolion.

Sut i gysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu hoffech drafod darpariaeth a chefnogaeth eich plentyn, y mae croeso cynnes iawn i chi gysylltu â’r adran drwy’r manylion isod.

Rhif ffôn yr ysgol: 01639 842129

Mr Aled Maddock : MaddockA5@hwbcymru.net

Mrs Hayley AmberAmberH1@hwbcymru.net

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost