Skip to content ↓

Ein Prif Ddisgyblion

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn ceisio datblygu myfyrwyr sy'n llwyddiannus, yn hyderus ac yn hapus, sy'n ysbrydoli eu cymuned ac sy'n gweithredu gyda charedigrwydd a thosturi tuag at eraill.

Yn ein gweithdrefnau a'n harferion dyddiol, ein cwricwlwm eang ac amrywiol, ein model addysgeg a thrwy ein hymrwymiad i ddarparu profiad o'r byd ehangach ein nod yw hyrwyddo ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn, i ddarparu cyfuniad o her uchel a chefnogaeth uchel ac i annog datblygiad:

  • arferion rhagorol o ymddygiad megis hunanymwybyddiaeth, caredigrwydd, gwerthfawrogiad, gostyngeiddrwydd, cwrteisi, hunanfynegiant hyderus a hunangyflwyniad a
  • arferion dysgu rhagorol megis penderfyniad, gwydnwch, trefniadaeth, darllen, astudio ac ymarfer

Credwn yng ngwerth:

  • Hunanymwybyddiaeth
  • Caredigrwydd a thosturi
  • Perthyn
  • Astudio, ymarfer, darllen a gwydnwch
  • Ysbrydoli eraill

Yn yr ysgol rydym yn annog hyn drwy gynnig cyfle i'n myfyrwyr fod yn rhan o wahanol gymunedau a lleisio eu barn.  Rydym am i fyfyrwyr deimlo'n rhan o'u hysgol, o'u cymuned a'u dyfodol.

Ystalyfera Secondary

Josef Meek - Prif Fachgen

Fy enw i yw Josef Meek, a dwi’n ddigon ffodus i fod yn Brif Fachgen eleni. Rwy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gymraeg Gwaun Cae Gurwen, ac rwyf wedi dewis astudio’r Celfyddydau Perfformio, Drama a Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Lefel A. Fel prif fachgen eleni, rwy’n gobeithio cymryd rôl llais disgyblion yr ysgol ac ysbrydoli myfyrwyr iau trwy osod esiampl dda. Hoffwn ddarparu cymorth fel y gallant gyflawni a chymryd rhan yn y pethau gwych yr wyf wedi gallu eu gwneud yn ystod fy amser yn Ystalyfera. O gystadlu gyda tim F1 yr ysgol, Eisteddfodau, Cwpanau Cymru Rygbi a Phêl-droed i chwarae rhan yng nghynyrchiadau’r ysgol. Dw i wastad wedi teimlo’n gartrefol yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera. Rwyf wedi cael cymaint o gefnogaeth wrth fod yn rhan o’r sefydliad hwn, ac o ganlyniad, rwyf wedi gallu tyfu fel person a chyflawni pethau nad oeddwn erioed wedi dychmygu y gallwn. Mae’n bleser cymryd y swydd Prif Fachgen, ac rwy’n edrych ymlaen at ei chyflawni.

 

Sophie Richards - Prif Ferch

Fy enw i yw Sophie Richards a dw’i mor hapus a chyffrous i gael fy newis fel Prif Ferch eleni. Es i i Ysgol Gynradd Pontsenni, a nawr rydw i'n astudio Bioleg, Ffiseg a Mathemateg fel lefelau A yng Nghanolfan Gwenallt. Tu allan i'r ysgol rydw i'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc ac yn rhan o dîm 'Tynnu Rhaff'. Yn ystod fy amser yn Ystalyfera rydw i wedi mwynhau llawer o gyfleoedd mewn sawl maes gwahanol, a dysgu gymaint o sgiliau newydd ac allweddol. Trwy'r profiadau hyn, rwyf wedi gwella fy hyder ac wedi cwrdd â llawer o fy ffrindiau tymor hir trwy ein diddordebau tebyg. Ces i lawer o gymorth yn ystod fy amser yn yr ysgol, ac rwy'n edrych ymlaen at drosglwyddo'r gefnogaeth honno ymlaen i ddisgyblion iau'r ysgol. Rydw i'n edrych ymlaen at lawer o gyfleodd newydd a chyffrous blwyddyn yma.

 

Rhodri Lewis - Prif Fachgen

Fy enw i yw Rhodri Lewis ac mae’n anrhydedd cael fy ethol yn Brif Fachgen yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Rwy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Cwmllynfell ac wedi dewis astudio Addysg Gorfforol, Drama ac Astudiaethau Busnes fel fy mhynciau Lefel A. Yn ystod fy amser yma, rwyf wedi cael y fraint o gynrychioli’r ysgol mewn digwyddiadau amrywiol, yn benodol yn y meysydd Perfformio a Chwaraeon, ac wedi gallu datblygu a chreu sgiliau newydd ar hyd y daith sydd wedi fy natblygu mewn i dyn ifanc hyderus ac annibynnol. Rwy’n edrych ymlaen at yr heriau a’r cyfrifoldebau o fod yn Brif Fachgen yr ysgol, a gobeithio gallaf drosglwyddo fy ngwybodaeth i ddisgyblion iau’r ysgol a dangos iddynt pam gwnaethant y dewis cywir o ddod a dilyn ei taith addysgol yma yn Ystalyfera.

 

Anna Johnson

Fy enw i yw Anna Johnson ac mae’n fraint i mi dderbyn swydd y Dirpwy Brif Ferch eleni. Rydw i'n gyn ddisgybl Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr a phenderfynais i ehangu fy addysg yn y chweched dosbarth i astudio Bioleg, Cerddoriaeth a Saesneg Llenyddiaeth lefel A, gyda’r bwriad o astudio nyrsio yn y brifysgol. Yn ystod fy nghyfnod yma yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera, mae’r ysgol wedi cynnig nifer o gyfleoedd arbennig sy’n fythgofiadwy i mi, a dros y pum mlynedd diwethaf rwyf wedi derbyn cefnogaeth gwych. Rydw i'n werthfawrogol iawn am bopeth mae’r ysgol wedi rhoi i mi a byddaf yn defnyddio’r sgiliau rwyf wedi datblygu yma yn y brifysgol. Felly, fel y Dirprwy Brif Ferch hoffwn osod esiampl i'r iau a sicrhau eu bod yn cael yr un cymorth a phrofiadau ges i. Heb amheuaeth, byddaf yn mwynhau helpu a gweithio gyda’r disgyblion a gwneud yn siwr eu bod yn hapus ac yn ymdopi gyda’u gwaith.

 

Iestyn Harris-Barfoot

Fy enw i yw Iestyn Harris-Barfoot, ac eleni rwyf wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn rôl o fod yn ddirprwy prif fachgen. Rydw i’n gyn ddisgybl o Ysgol Gymraeg Pontardawe, a dewisais astudio Hanes, Daearyddiaeth a Saesneg iaith fel fy mhynciau lefel A. Eleni, fel dirprwy prif fachgen, hoffwn helpu ysbrydoli disgyblion trwy ceisio creu esiampl, a hefyd rhoi cymorth i ddisgyblion iau er mwyn iddynt cymryd rhan mewn rhai or digwyddiadau a gwahanol pethau gwych rwyf wedi bod yn rhan ohono yn y blynyddoedd diwethaf. Mae bod yn yr ysgol yma wedi helpu fi i ddatblygu fel person, gan fy mod wedi derbyn cefnogaeth gwych dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n bleser mawr i fi dderbyn y rôl yma, ac edrychaf ymlaen i barhau fel dirprwy prif fachgen yn yr ysgol. 

 

Molly Davis

Fy enw i yw Molly Davis ac rwy’n ddigon ffodus i fod yn ddirprwy brif ferch eleni. Rwy’n gyn-fyfyriwr o Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr ac yn dod o Ystradgynlais. Rwyf wedi dewis astudio bioleg, addysg gorfforol a llenyddiaeth saesneg gyda'r gobaith o astudio astudiaethau biofeddygol yn y brifysgol. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi cyflawni llawer o bethau gwahanol, trawiadol yn yr ysgol, fel bod yn rhan o dîm pêl-rwyd yr ysgol ers dechrau yn Ystalyfera. Mae'r nodweddion hyn wedi fy ngalluogi i ddatblygu fel unigolyn a gwella fy sgiliau cymdeithasol. Rwy’n gobeithio gwneud newid yn yr ysgol gyda fy amser fel swyddog ac yn gobeithio ysbrydoli plant iau na fi. Rwy’n mwynhau fy rôl yn fawr, ac yn gobeithio gwella’r ysgol mewn sawl ffordd, megis gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol yr ysgol. Rwy’n hynod ddiolchgar i dderbyn y cyfrifoldeb hwn a byddaf yn sicrhau fy mod yn gwneud fy ngorau.

 

Joshua Phillips

Helo, fy enw i yw Josh Phillips. Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis fel un o dau ddirprwy prif fachgen eleni. Cyn Ystalyfera es i ysgol gynradd Gymraeg Pontardawe. Ar hyn o bryd rwy'n astudio gwyddoniaeth gyfrifiadurol, mathemateg a ffiseg ar gyfer fy Safon Uwch yn y chweched dosbarth yng Nghanolfan Gwenallt. Y tu allan i'r ysgol rwy'n ceisio cadw'n heini trwy mynd i'r gampfa neu chwarae pêl-droed gyda fy ffrindiau. Hefyd, rwy'n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, chwarae gemau fideo a rhoi cynnig ar bethau newydd fel dysgu ieithoedd neu offerynnau newydd. Mae fy amser yn Ystalyfera wir wedi adeiladu fi fel unigolyn mewn amrywiaeth o feysydd. Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i chael o'r ysgol wedi cynyddu fy hyder i roi cynnig ar bethau na fyddwn i erioed wedi'u hystyried yn y gorffennol ac mae hefyd wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau bywyd i mi. Mae'r ysgol wedi fy helpu i ddarganfod beth yw fy niddordebau a sut i’w dilyn. Yn Ystalyfera rwyf wedi cwrdd â phobl anhygoel ac wedi gwneud llawer o ffrindiau am byth. Rwy’n gyffrous ynglŷn â gweld pa gyfleoedd a heriau sydd i ddod y flwyddyn yma ac yn y dyfodol pellach.

 

Bro Dur

Efa Jones Prif Ferch

Shwmae, fy enw i yw Efa Jones a braint ac anhrydedd o’r mwyaf oedd derbyn yr her o fod yn Brif Ferch cyntaf Bro Dur, a gobeithio byddaf yn gwasanaethu yr ysgol mewn ffordd a fydd yn cyfrannu at lwyddiant a thyfiant yr ysgol newydd hon. Un o fy nghryfderau pennaf yw fy ymroddiad llwyr a’m brwdfrydedd heintus at amrywiaeth eang o weithgareddau dydd i ddydd yr ysgol. Rwy’n caru cyfrannu at lwyddiant a chodi proffil ein hysgol ifanc, ac yn teimlo fy mod wedi elwa gymaint o’r hyn mae’r ysgol wedi ei gynnig i mi. Mae’r rol yma yn fodd o fy ngalluogi i roi rhywbeth yn ol i’r ysgol, er mwyn diolch am y cyfleoedd di-ri a’r profiadau cofiadwy rwyf wedi eu derbyn yma.  

O ran fy mhersenoliaeth, rwy’n berson cydwybodol, trefnus, gofalgar, positif a gweithgar a phob amser yn barod am sialens. Gallaf eich sicrhau y byddaf yn gwneud fy ngorau glas dros holl gymuned ein ysgol arbennig ni. Hoffwn feddwl fy mod i’n ferch â natur gyfeillgar a fyddai’n helpu croesawu plant o bob oed i ddod ataf am gymorth, cyngor neu gefnogaeth.

Fel Prif Ferch, un o fy mlaenoriaethau fydd ceisio uniaethu fy hun gyda gobeithion a phryderon fy nghyd-ddisgyblion fel eu bod nhw’n cael y cyfle i brofi’r un hapusrwydd a theimlad o berthyn rwyf innau wedi eu profi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ceisiaf gynhrychioli holl leisiau’r disgyblion eraill hyd eithaf fy ngallu. Rwy’n angerddol dros y Gymraeg, sef iaith fy aelwyd a braint yw’r gallu i siarad Cymraeg a braint yw’r cyfle i fynychu ysgol Gymraeg. Nid yn unig fel Prif Ferch, on fel un o ddisgyblion hynaf yr ysgol, mae yna ddyletswydd arnom i ddangos yn ddyddiol ein bod yn manteisio ar bob cyfle i gyfathrebu, dysgu a chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg. Heb amheuaeth, fe fydd ceisio annog fy nghyd-ddisgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn yr ysgol yn flaenoriaeth i mi.

Pleser o’r mwyaf yw bod yn Brif Ferch a cheisiaf cyflawni fy rol gydag egni, brwdfrydedd a gwên lydan. Wedi dweud hynny, rwy’n ddigon synhwyrol ac aeddfed i sylweddoli fod gen i lawer i ddysgu am y gwaith a’r heriau, ond gyda chymorth parod cyfoedion a staff, fe lwyddwn i gyrraedd y nod.

 

Morgan Francis - Prif Fachgen

Shwmae, fi yw Morgan Francis, a dwi yw’r Prif Fachgen cyntaf ym Mro Dur. Braint ac anrhydedd oedd hi i dderbyn y rôl yma, a gobeithiaf y byddaf yn chwarae rhan enfawr yn llwyddiannau'r ysgol. Dwi’n ddisgybl ym mlwyddyn un-ar-ddeg sydd yn un o’r disgyblion yn y flwyddyn gyntaf erioed ym Mro Dur. Dwi’n berson sy’n cymryd ysgol yn ddifrifol iawn, ac yn gwneud fy ngorau glas ar bob adeg yn y dosbarth neu’n cynrychioli’r ysgol. Mae’r fraint of fod yn Prif Fachgen wedi rhoi’r cyfle i roi nol i’r ysgol, yn bennaf i’r athrawon am yr holl brofiadau cofiadwy rwyf wedi gael wrth i’r ysgol dyfu. Dwi’n hynod o ddiolchgar am y pethau mae’r athrawon wedi gwneud i fi yn addysgiadol ond yn fwy na hynny wedi’n helpu i ddatblygu fy hunan fel person gwell.

Mae’n amlwg i mi fod y fraint hon yn gofyn am amynedd, parch, gofal, y gallu i weithio da mewn tîm, ac i gefnogi’r enw da’r ysgol. Dwi’n ymwybodol o’r cyfrifoldeb o fod yn fodel rôl i’r ymwelwyr yr ysgol a’r disgyblion ifancaf yr ysgol sy’n chwilio am ryw fath o arweinwr, ar ôl y newidiad o ysgol gynradd i uwchradd. Hefyd, dwi’n gweld bod angen model rol ar ddisgyblion ein hysgol ni, sy’n gallu fod yn ffrind i bawb wrth wneud bywyd ysgol yn gyfforddus, saff a pleserus trwy’r amser. Yn sicr, gallaf gynnig hyn i gyd a gallaf greu un gymuned mawr ym Mro Dur.

Dwi’n berson sydd wedi arwain yn naturiol neilldai fod yn gapten timau rygbi neu gapten llys. Rwyf wedi cynrychioli'r ysgol nifer o weithiau yn academaidd ac yn allgyrsiol. Byddwn yn ystyried fy hun fel person sy’n hawdd siarad ag ef, ac yn berson sy’n cael ei barchu’n uchel gan ddisgyblion hynaf ac ifancaf yr ysgol. Dwi’n hoff iawn o’r cyfrifoldeb fel llais y disgybl yr ysgol, yn rhoi adborth a barn i’r athrawon a’r arweinwyr yr ysgol.

Dwi’n edrych ymlaen at weddill y flwyddyn olaf, er bydd yn drist i adael, byddaf yn gallu edrych yn ôl ar fy mhrofiad i yn Ysgol Gymraeg Bro Dur gygag atgofion melys.

 

Prif Swyddogion: Maddie Pritchard, Mali Loader, Lowri Gleaves, Tyler Kelly

Swyddogion: Ellie Breach, Aled Davies, Eleri Lavis, Alisha Denner, Ashton Hewitt, Lewys Smith, Meagan Griffiths, Mea Verallo, Lili Walford.

        

 

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost