Gwaith Maes Daearyddiaeth – Y tro cyntaf i ddysgwyr Bro Dur!
Gwaith Maes Daearyddiaeth – Y tro cyntaf i ddysgwyr Bro Dur!
Ym Medi 2021, roedd yn braf croesawu ein Blwyddyn 11 cyntaf yma yn Ysgol Gymraeg Bro Dur. Blwyddyn olaf eu cyrsiau TGAU a blwyddyn fydd yn un brysur iawn wrth iddyn nhw baratoi i gwblhau eu cymhwysterau. Rhan bwysig o hynny fydd cwblhau gwaith cwrs ymarferol ac mae’n wych bod grŵp Blwyddyn 11 TGAU Daearyddiaeth wedi cael mynd mas o’r ysgol i gwblhau eu gwaith maes ddydd Gwener, Medi 24.
Y dasg oedd ymchwilio i effaith Parc Adwerthu Trostre ar ganol tref Llanelli. Roedd y disgyblion wedi bod yn llwyddiannus iawn yn eu gwaith ymchwil ac wedi mwynhau eu diwrnod o waith ymarferol. Diolch yn fawr i’r staff oedd wedi eu goruchwylio.