Llais disgyblion Bro Dur yn cael ei glywed ar lefel sirol a cenedlaethol
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn Maddie Pritchard fel y Dirprwy Faer Ieuenctid newydd mewn seremoni a gynhelir ar-lein. Cynhaliwyd y seremoni flynyddol ar ddydd Iau 3 Chwefror mewn cyfarfod arlein ble roedd uwch swyddogion y cyngor ac arweinwyr cymunedol allweddol yn bresennol, a oedd yn cynnwys y Cynghorydd Ted Latham (Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot), Karen Jones (Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot) Sally Holland (Comisiynydd Plant Cymru), Louise Fleet (Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg), Joanna Jenkins (Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg), a David Rees MS (Aelod o Senedd Aberafan). Siaradodd Maddie, disgybl blwyddyn 11 yma yn Ysgol Gymraeg Bro Dur, am ei hangerdd dros y Gymraeg gan addo cefnogi nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Cyngor Ieuenctid CNPT wedi pleidleisio am Meagan Griffiths, sydd hefyd o flwyddyn 11, i ddod yn aelod o Senedd Ieuenctid Prydain. Cafodd Meagan 100% o'r pleidleisiau ar ôl araith eithriadol i'r Cyngor Ieuenctid. Bydd Meagan yn cael ei gofrestru fel ASI a bydd yn mynychu cyfarfodydd bob mis gyda'r sefydliad ‘Plant yng Nghymru’ ble bydd hi’n cynrychioli pobl ifanc Castell-nedd Port Talbot. Mae Aelodau o Senedd Ieuenctid Prydain sy'n mynychu o bob rhan o Gymru ac rydym yn falch o gael Meagan i gynrychioli pobl ifanc Castell-nedd Port Talbot.