Llwyddiannau Pêl Rwyd
Llongyfarchiadau i Iona Walker Hunt a Mali Loader sydd eisoes yn aelodau cyson o garfan Pêl Rwyd y Sir. Ymhellach, hoffen ni ymestyn llongyfarchiadau i Iona Walker Hunt sydd wedi cael ei dewis i Garfan Pêl Rwyd dan 17 y Celtic Dragons. Llwyddiant haeddiannol iawn yn deillio o waith caled a dyfalbarhad.