Ymgyrch Diolchgarwch
Am brofiad bendigedig oedd cael ymweld â Banc Bwyd Carmel Port Talbot i wneud ein cyfraniad blynyddol i’r banc bwyd. Dyma ein hymgyrch ddiolcharwch eleni gyda disgyblion Bro Dur yn casglu bwyd drwy fis Tachwedd. Rydym yn falch iawn o gymuned yr ysgol am ei charedigrwydd unwaith eti ac yn falch iawn o fedru cyfrannu eto eleni cyn y Nadolig, ar amser sydd yn gallu bod yn anodd i lawer. Diolch yn fawr i bawb am eich haelioni