DATHLU CANMLWYDDIANT YR URDD
Penblwydd Hapus Mr Urdd !
Penblwydd Hapus Mr Urdd!! A ninnau yn dathlu’n Cymreictod ar Ddydd Santes Dwynwen – pa ddiwrnod gwell i ehangu’r dathliadau drwy ddathlu Penblwydd Mr Urdd yn 100 oed!!! Llwyddodd 8H3 i fod yn rhan o ymdrech lwyddiannus yr Urdd i dorri record y byd drwy ganu yr un gân mewn awr – pwy ddywedodd y gallech chi glywed Hei Mr Urdd ormod o weithiau?! Roedd hi’n hyfryd gweld ein disgyblion yn eu coch, gwyn a gwyrdd yn tynnu sylw at ddiwrnod mor arbennig…