Diwrnod pontio cyntaf i Flwyddyn 6…
Diwrnod pontio cyntaf i Flwyddyn 6…
Medi 28, 2021:
Roedd hi’n hyfryd cael croesawu disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Rhosafan aton ni i Fro Dur am weithgareddau blasu cyffrous. Cafodd y criw brwdfrydig gyfle i brofi gwersi STEM a Iechyd a Lles a chwrdd ag athrawon a dechrau dod i adnabod yr ysgol. Edrychwn ymlaen i groesawu disgyblion Castell Nedd a Tyle’r Ynn yn y dyddiau nesaf. Bydd y noson agored rithiol ar MS Teams ar nos Fawrth, Hydref 5ed.