Prif Ddisgyblion a Phrif Swyddogion 2021
Prif Ddisgyblion a Phrif Swyddogion 2021
A ninnau gyda’n disgyblion Blwyddyn 11 cyntaf ym Mro Dur – mae hi’n bleser cyhoeddi mai Morgan Francis ac Efa Jones yw Prif Ddisgyblion cyntaf yr ysgol.
A hithau’n flwyddyn mor arbennig o ddisgyblion – mae’n fraint cael cyhoeddi fod tîm o bobl yn mynd i fod yn cyorthwyo’r ddau yn eu gwaith.Yn ein gwasanaeth ar Fedi 18, cyhoeddwyd mai’r Prif Swyddogion yw: Lowri Gleaves, Tyler Kelly, Mali Loader a Maddie Pritchard.
Mae tîm rhagorol o swyddogion yn eu cynorthwyo eleni – Ellie Breach, Aled Davies, Alisha Denner, Meagan Griffiths, Ashton Hewitt, Eleri Lavis, Lewys Smith, Lili Walford a Mea Verallo. Llongyfarchiadau i chi gyd.