Skip to content ↓

Diwrnod Cerfio’r Holocost 2023

Diwrnod Cerfio’r Holocost – We Ddarllediad gyda goroeswr yr Holocost Ruth Posner BME

Ar 26ain o Ionawr, bu disgyblion CA4 a 5 Astudiaethau Crefyddol a Hanes yn cofio’r diwrnod rhyddhawyd gwersyll crynhoi Auschwitz Birkenau wrth ymuno a we-ddarllediad byw gyda goroeswr yr Holocost, Ruth Posner BME. Roedd hyn yn rhan o

weithgaredd Diwrnod Cofio’r Holocost. Dyma ymateb disgybl blwyddyn 12 Maddie Pritchard yn trafod y profiad ac yn ail eirio stori anghredadwy Ruth.

 

“Roedd hi’n fraint cael fod yn rhan o gyfweliad a sesiwn holi ac ateb Ruth Posner, goroeswr Holocost, wedi’i gynnal gan Holocaust Educational Trust dydd Iau 26ain o Ionawr.

 

Yn 1942, pan oedd Ruth yn 9 mlwydd oed, cafodd hi a’u theulu ei gymryd i Ghetto Radom yn agos i Warsaw. Llwyddodd Ruth a’i modryb i ddianc o’r Ghetto a gweithion nhw mewn ffatri llafur caethweision, yn esgus fod yn Gatholigion. Yn wyrthiol, llwyddon nhw i ddianc o’r ffatri. Newidodd Ruth a’i modryb eu hunaniaeth yn llwyr i gadw’n gudd a diogel. Yn hwyrach yn 1945, cawson nhw eu cymryd fel yn garcharorion rhyfel Catholig Pwylaidd i'r Almaen. Bomiodd cynghreiriaid trên roeddwn nhw’n teithio arni ac yn ofni diogelwch eu hun gadawon nhw pawb i fynd. Gorweddodd Ruth yn y gwair wrth i’r bomiau ollwng o’r awyr, wedi’i hamgylchynu gan gyrff marw. Eto rhyw ffordd, goroesodd Ruth a’i modryb. Yn hollol anymwybodol ble roedden nhw, croesawodd ffermwyr Almaeneg y ddwy i fewn i’w cartref lle gweithion nhw tan i’r rhyfel ddod i ben. Heblaw am ei modryb, bu farw pob aelod o’i theulu, gan gynnwys ei chefndryd, 6 ac 8 mlwydd oed a chawsant eu saethu gan y Natsïaidd ar ôl i rywun eu gwadu. Dwedodd Ruth “rwy’n cario baich yn fy nghalon drwy'r amser oherwydd does gen i ddim teulu.” Teithiodd Ruth i Loegr ar Kindertransport ar ôl y rhyfel lle dysgodd Saesneg ac yna mynychodd London Contempory Dance School. Yn y pendraw, fe ddaeth Ruth yn actores.

 

Roedd stori Ruth yn deimladwy a phwerus iawn. Roedd gwrando arna hi’n siarad wedi fy atgoffa pa mor ffodus ydw i i fod yn fyw a dylen ni gyd cymryd mwy o amser i werthfawrogi ein deulu a ffrindiau ac i’w peidio’u cymryd yn ganiataol. Er na aeth Ruth i wersyll crynhoi, mae beth ei phrofodd yn annealladwy. Mae mor bwysig, yn enwedig i’r cenedlaethau iau cael eu haddysgu am yr Holocost, fel gallwn anrhydeddu’r miliynau o ddioddefwyr a byth anghofio’r anghyfiawnder gwynebwyd yn ystod yr hil-laddiad erchyll, annynol hwn. Yng nheiriau Elie Wiesel “mae anghofio’r Holocost fel lladd dwy waith” felly mae’n hollbwysig i ni ddangos y parch i’r dioddefwyr maen nhw’n haeddu.”

 

Maddie Prictchard, disgybl blwyddyn 12 Astudiaethau Crefyddol

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost