Bloc y Darren yn leoliad teilwng i ddisgyblion 2022
Fel rhan o fuddsoddiad Ysgolion 21ain Ganrif mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera bellach yn leoliad modern gydag adeiladau sydd yn gweddu gofynion addysg y Gymru fodern. Mae bloc y Darren yn gartref i Theatr Chiswell, Bwyty’r Giedd ac Ardal waith y Gwrhyd. Mae Stiwdio’r Cwm a Chraig y Nos bellach yn gartref i’r Adran Ddrama, Pantteg ac Alltygrug yn llawn offerynnau yr Adran Gerdd, a Henrhyd, Gurnos Aberpergwm, Tarenni a Gleision yn ystafelloedd yr Adran Dyniaethau. Mae enwau bendigedig yr ardal leol yn gwreiddio yr ysgol yn ei hardal leol a’r disgyblion bellach wrth eu bodd yn eu cartref newydd.