Cwrs Cri’r Gwyllt i ddisgyblion blwyddyn 7
Yn ystod mis Ionawr, mae dros 45 o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera wedi mynychu cwrs Her 5 diwrnod Disgybl Gwydn gyda chwmni Cri’r Gwyllt. Am brofiad bendigedig lle cafwyd cyfle i ddatblygu sgiliau tîm a gweithio gydag eraill trwy weithgareddau megis adeiladu peiriant i gario pêl ac diwrnod llawn hwyl a sbri yn dringo ac yn cerdded y ceunentydd yng Nghwm Tawe. Llongyfarchiadau i bob un am eu hymdrechion ardderchog a diolch i dim Cri’r Gwyllt am eu cefnogaeth a’u gofal.