Skip to content ↓

Ystalyfera Uwchradd

Croeso i Ysgol Gymraeg Ystalyfera uwchradd, ysgol cyfrwng Cymraeg sydd â hanes cyfoethog, tra'n edrych i'r dyfodol.

Mae'r ysgol, Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur bellach yn ei phumed degawd gyda dros 1,500 o ddisgyblion, ac mae ein chwaer-ysgolion, Llanhari (1974); Y Strade (1977); Gŵyr (1984); BrynTawe (2003); Llangynwyd (2008) a Bro Dur (2018) wedi esblygu'n naturiol o'r dechrau hanesyddol hwnnw ym mis Medi 1969.

Rydym yn falch o'n traddodiad, sy'n ymestyn dros hanner can mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi dathlu llwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr mewn cynifer o feysydd nodedig fel y maes chwaraeon, yn y Celfyddydau, busnes a'r byd academaidd ac mewn amrywiaeth o feysydd galwedigaethol. Mae llwyddiant rheolaidd a pharhaus ein myfyrwyr mewn arholiadau allanol, yn ogystal ag o fewn llu o feysydd allgyrsiol yn dyst i'r traddodiad rhagorol hwnnw.

Lleolir Ysgol Gymraeg Ystalyfera ym mhentref Ystalyfera ar ben cwm hardd Abertawe. Rydym yn gwasanaethu dalgylch mawr sy'n ymestyn o Frynaman yn y gorllewin i Drebannws yn y de ac mae nifer cynyddol o ddisgyblion yn ymuno â ni o dde Powys a dwyrain Sir Gaerfyrddin.

Rydym yn ysgol hapus a llwyddiannus iawn.  Mae canlyniadau cyson ar draws pob cyfnod allweddol, lefelau trawiadol o werth ychwanegol a lefelau uchel iawn o les yn cyfuno i greu amgylchedd lle gall disgyblion lwyddo i fod eu gorau o fewn diwylliant ysbrydoledig a chefnogol.

 

Os hoffech ymuno â ni, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diolch

Mrs Delyth Spurway

 

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost