Skip to content ↓

Rhaglen Bontio Ystalyfera

 

Croeso i dudalennau pontio Ysgol Gymraeg Ystalyfera lle cewch yr holl wybodaeth gyfredol am ddigwyddiadau a gweithrediadau.  Gobeithiwn y cewch deimlad am fywyd beunyddol yr ysgol o fewn y tudalennau hyn wrth i ni anelu at gyflwyno atebion i unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Gwyddom mai'r newid o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yw un o'r newidiadau mwyaf y byddwch yn ei brofi.  Gwyddom hefyd mai dyma un o'r newidiadau mwyaf cyffrous y byddwch yn ei wneud.

Mae symud i'r ysgol uwchradd yn rhoi cyfle i chi ddysgu pethau newydd diddorol, gwneud mwy o ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau a allai eich arwain at astudiaeth neu lwybr gyrfa penodol.

Rydym bob amser yn edrych ymlaen at groesawu ein Blwyddyn 7 newydd, a byddwn yn darparu rhai adnoddau ar y dudalen hon i'ch helpu i bontio i Ysgol Gymraeg Ystalyfera.  Cofiwch wirio'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i edrych ar yr adnoddau ac i ddod i adnabod eich Ysgol.

Yn bwysicaf oll, dechreuwch feddwl am yr holl bethau cyffrous sy'n eich disgwyl yn eich ysgol newydd, a'r hyn y byddwch yn ei wneud i fod mor llwyddiannus ag y gallwch yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera.

Mae ein Rhaglen Bontio yn sicrhau bod disgyblion newydd yn teimlo'n hapus, yn sefydlog ac yn ddiogel o'u diwrnod cyntaf yn yr ysgol uwchradd. Rydym am sicrhau bod y cyfnod pontio mor llyfn, boddhaus a llwyddiannus â phosibl.

  • Bydd y disgyblion yn cael amrywiaeth o weithgareddau yn yr ysgol ac ar-lein, gan gynnwys Diwrnod Sefydlu. 
  • Mae athrawon Blwyddyn 6 a’r CADY yn llunio gwybodaeth i ni am bob disgybl sy'n dod i Ysgol Gymraeg Ystalyfera.
  • Mae ein tîm pontio yn ymweld â phob ysgol i siarad am y disgyblion sy'n dod atom.
  • Mae rhieni/gofalwyr yn cwblhau proses gofrestru a sefydlu ar-lein.
  • Mae myfyrwyr Blwyddyn 7 yn dechrau cyn ein holl fyfyrwyr eraill ym mis Medi i'w helpu i ymgartrefu a chwrdd â mwy o staff.

 

Mr Aled Maddock

Pennaeth Cynorthwyol (Cyfrifoldeb dros Bontio)

MaddockA5@hwbcymru.net

Mrs Bethan Powell

(Pennaeth blwyddyn 7)

HiscocksB6@hwbcymru.net

 

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

 

 

 

 

Esiamplau gwaith Pontio gyda'r Cynradd
Prosiect Esiampl Gwaith

Prosiect Ieithoedd Tramor Modern trwy MS Teams

 

Prosiect Technoleg - Dail y Tymhorau

 

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost