Skip to content ↓

Y Gorwel Bro Dur

Yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol

Croeso a Gweledigaeth

Croeso cynnes iawn i’r Gorwel lle mae ein gweledigaeth yw darparu’r gefnogaeth orau ar gyfer disgyblion ag ADY.  Dymunwn fod y disgyblion yn ddi-wahan yn dysgu i ymdopi ag amrywiaethau cymdeithasol.  Ymhyfrydwn yn ein darpariaeth gynhwysol.

Mae’r Gorwel yn enw gwych ar gyfer ein canolfan Anghenion Dysgu Ychwanegol oherwydd y golygfeydd trawiadol sydd i’w gweld o’n ganolfan braf a’i ffenestri enfawr. Ond hoffem fel staff y Gorwel feddwl bod ystyr ehangach i’r enw – yn aml iawn, anelwn am y Gorwel a dyna’n nod ni yma yn y Gorwel – sicrhau fod gan y dysgwyr sydd o fewn ein gofal y gefnogaeth a’r medrau i wireddu eu potensial yn llawn tra yn ddisgyblion ym Mro Dur a thu hwnt.

Staff

 

Mrs Gwenllian Dooher yw Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol ac y mae ei gwaith yn cynnwys sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cael eu hadnabod, bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol fwyaf perthnasol yn ei lle ar gyfer disgyblion a chydlynu holl waith yr adran.

 

 

Miss Rhiannon Rees-Givelin yw Uwch-gynorthwyydd Dysgu yr ysgol. Y mae ei rôl yn cynnwys cydlynu gwaith ymyrraeth cau’r bwlch ôl-covid yn yr adran, cydlynu a rhedeg ein rhaglenni ymyrraeth amrywiol a chefnogi disgyblion 1:1 yn Y Gorwel.

 

Y mae’r tîm hefyd yn cynnwys ein cynorthwywyr cynnal dysgu brwdfrydig Miss Cerys Thompson, Miss Chelsea Thompson, Miss Cerys Morgan a Miss Lucy Edwards.

 

Rhaglenni Ymyrraeth

Cynhelir holl raglenni ymyrraeth yr Adran ADY yn y Gorwel, a’n bwriad ar bob achlysur yw cadw’r niferoedd sydd yn eu mynychu’n fychan er mwyn sicrhau sylw arbenigol i bob unigolyn. Caiff disgyblion eu gosod mewn grwpiau â disgyblion eraill ag anghenion dysgu ychwanegol a sgiliau tebyg.

Y mae’r adran yn darparu ystod o raglenni ymyrraeth er mwyn cefnogi disgyblion a’u cynorthwyo wrth wneud cynnydd academaidd gan gynnwys gweithdai darllen a sillafu yn y Gymraeg a’r Saesneg a gweithdai rhifedd. Er mwyn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol cymdeithasol ac emosiynol, yr ydym hefyd yn darparu gweithdai megis clwb Lego, Grŵp Talkabout ac ELSA.

Cewch wybodaeth benodol o ran y rhaglen ymyrraeth fwyaf perthnasol i’ch plentyn yn ystod y broses o osod y Cynllun Addysgu Unigol (CAU) neu’r Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn eu lle. 

 

Clwb y Gorwel

Rydyn ni’n deall fod amseroedd cinio yn gallu bod yn anodd i nifer o’n dysgwyr – ac oherwydd hynny y sefydlwyd Clwb y Gorwel. Bwriad y clwb yma yw i gynnig hafan i ddisgyblion sydd yn gweld yr ochr gymdeithasol o amser cinio yn anodd, i gynnig cefnogaeth academaidd pellach i’r rheiny sydd ei angen ac i fod yn gyfnod o hwyl i’r rheiny sydd yn dymuno cystadlu gydag athrawon y Gorwel dros gêm fwrdd!
 

Cefnogaeth tu hwnt i oriau’r ysgol

Deallwn ei bod hi’n anodd iawn i rai o’n disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol i gwblhau eu gwaith cartref a bod y broses yn gallu bod yn rhwystredig iawn iddynt. Er mwyn cynorthwyo disgyblion felly, y mae gan bob disgybl sy’n cael ei gefnogi gan yr adran fynediad i’n Teams adrannol.

Y mae croeso cynnes iawn i ddisgyblion ddefnyddio’r Teams hwn i gysylltu â ni ac i dderbyncymorth a chyfarwyddiadau pellach gyda’i gwaith. Fe fydd y cynorthwyydd cynnal dysgu sydd yn cefnogi’ch plentyn yn rhannu enw’r Teams perthnasol gyda’ch plentyn yn ystod y sesiwn rhaglen ymyrraeth gychwynnol ac yn sicrhau ei fod yn ymwybodol o sut i gael mynediad iddo o adref. Y mae croeso cynnes i chithau hefyd ddefnyddio’r Teams i holi cwestiwn os oes angen cymorth neu arweiniad pellach arnoch.

 

Cysylltiadau allanol

Fel adran yr ydym yn gweithio’n agos iawn â nifer o asiantaethau allanol gan gynnwys y Seicolegydd Addysg, athrawon ymgynghorol ASD, anawsterau dysgu penodol, Nam Clyw a Nam Gweledol y Sir, therapyddion Iaith a Lleferydd a thîm Cynnal Ymddygiad y Sir. Pe bai angen cymorth arbenigol ar eich plentyn, fe fyddai’n bosibl i ni gyfeirio at yr arbenigwyr hyn er mwyn derbyn cefnogaeth ychwanegol.

Cliciwch ar y ddolen 'JIGSAW' isod er mwyn cysylltu â'r gwasanaeth Cwnsela ysgolion.

Sut i gysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu hoffech drafod darpariaeth a chefnogaeth eich plentyn, y mae croeso cynnes iawn i chi gysylltu â’r adran drwy’r manylion isod.

Rhif ffôn yr ysgol: 01639 502895

Mrs Gwenllian DooherDooherG@hwbcymru.net

 

 

      

                                             

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost