Skip to content ↓

Dysgu tu allan i'r Ystafell Dosbarth

Dysgu yn yr awyr agored

Mae dysgu yn yr awyr agored yn rhan allweddol o’n Cwricwlwm bydd yn sicrhau bod ein disgyblion yn cael eu cefnogi i fod yn :

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae’r pedwar diben (gweler uchod) yn cael eu gwreiddio drwy brofiadau bywyd ‘go iawn’. Gellir datblygu hwn drwy sicrhau defnydd o’r ardal agored yn yr Ysgol a thrwy deithiau a phrofiadau ehangach. Mae medru cymryd risg mesuradwy a datblygu’r dysgwr annibynol yn rhan allweddol o Gwricwlwm i Gymru a gellir cefnogi hwn drwy ddysgu yn yr awyr agored. Mae cyfraniad sylweddol at ddod yn ddinesydd cyfrifol  yn dod drwy ddysgu am fyd natur a’n heffaith ni ar ein amgylchedd ffisegol. Mae’n hanfodol bod ein disgyblion a’n pobl ifainc yn ennill profiadau yn yr awyr agored er mwyn deall hynny’n llawn. Un Maes Dysgu a Phrofiad o fewn Cwricwlwm i Gymru yw Iechyd a Lles ble gwelir ffocws enfawr ar effaith positif yr awyr agored ar llesiant a theimladau o hunan hyder, hunan gred a iechyd yn gyffredinol.

Pam mae dysgu yn yr awyr agored yn bwysig? Beth yw’r dystiolaeth ei fod yn cael effaith positif ar ddatblygiad plentyn neu berson ifainc?

“Mae mwyafrif ymarferwyr yn nodi bod dysgu yn yr awyr agored yn hybu mwynhad ac ymrwymiad dysgwyr. Yn ei dro, bydd hwn yn cael effaith positif ar ddatblygiad personol a chymdeithasol plentyn. Mae plant yn dyfalbarhau â gweithgareddau am gyfnodau hirach a’n fodlon rhoi cynnig ar bethau. Maent yn dysgu i gydweithredu a chymwyso’u sgiliau meddwl i broblemau go iawn.” (Estyn 2011)

“Experience of the outdoors and wild adventure space has the potential to confer a wide range of benefits on young people… Development of a positive self-image, confidence in one’s abilities and experience of dealing with uncertainty can be important in helping young people face the wider world and develop enhanced social skills.” (Ward Thompson et al, 2006)

“Outdoor natural space provides additional opportunities for critical thinking, creative inquiry and problem solving; fundamental life skills permitting students to ‘think critically about issues pertinent to their lives and the world outside the classroom’” (Pretty et al, 2009).

“Both students and their teachers reported increases in knowledge and understanding as a result of experiences in the outdoor classroom.Whenever students were asked about their learning, they were generally able to explain something that they had seen, learned or understood on the visits… Developments in knowledge and understanding appeared to be from across a range of cognitive domains” (Dillon et al, 2005).

 

Esiamplau o ddysgu yn yr awyr agored yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

 

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost