Cynrychioli’r Gweilch
Rydym ni’n falch iawn bod tri o’n disgyblion wedi cael eu dewis i gynrychioli’r Gweilch. Llongyfarchiadau i Ashton a Morgan sydd wedi cael eu dewis yng Ngharfan Dan 16 Dwyrain y Gweilch. Mae Ashton a Morgan eisoes wedi bod yn aelodau llwyddiannus yn nhîm Ysgolion dan 16 Aberafan, gyda’n Prif Fachgen Morgan Francis hefyd yn gapten ar y tîm. Y capten gyntaf o’n hysgol i gapteinio Ysgolion Aberafan.
Roedd hi’n hyfryd darganfod fod Seren Croydon o Flwyddyn 11 wedi cael ei dewis yn rhan o garfan merched Y Gweilch (dan 18) – tipyn o gamp. Llongyfarchiadau i chi gyd.