Disgyblion yn serennu ym myd chwaraeon
Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera unwaith eto wedi serennu ym myd chwaraeon gyda nifer ohonynt yn cynrhychioli Cymru yn eu campau arbenigol. Rhaid llongyfarch Morgan Morse ar gael ei ddewis i garfan Rygbi Cymru dan 20; yn 17oed, mae hyn yn dibyn o glod ac rydym yn ymfalchio yn ei lwyddiant. Mae Morgan yn ddisgybl diymhongar a fydd yn lysgennad gwych i’r ysgol a’r tîm rygbi wrth iddynt symud trwy’r bencampwriaeth. Dau ddisgybl arall sydd yn blasu llwyddiant cenedlaethol yw Llien Llewelyn a Kieran Evans. Buodd y ddau yn chwarae Short Mat bowls dros Gymru ar ddiwedd Ionawr.