Plant mewn Angen

Codwyd dros £200 o bunnoedd gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ar gyfer Plant mewn Angen. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau hyfryd gan gynnwys taflu deunyddiau ‘ych a fi’ dros y Pennaeth, Mrs Laurel Davies; gwerthu cacennau; taflu sbwng gwlyb a ffa pob at aelodau o staff; dyfalu sawl losin oedd mewn jar a diwrnod gwisgo pyjamas. Diolch yn fawr i’r Senedd Ysgol am drefnu’r holl weithgareddau. Roedd y disgyblion yn wên o glust i glust wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau. Diolch i bawb am eu haelioni a’u brwdfrydedd!